18.09.2025

Ar Ben Ben: Prosiect Tân

Ddydd Sadwrn 13 Medi, arweiniodd y Diffoddwr Tân Rhys Fitzgerald o'n gwasanaeth dîm o chwe diffoddwr tân i ymgymryd â'r her o ddringo Ben Nevis.

Gan Emma Dyer



Ddydd Sadwrn 13 Medi, arweiniodd y Diffoddwr Tân Rhys Fitzgerald o'n gwasanaeth dîm o chwe diffoddwr tân i ymgymryd â'r her o ddringo Ben Nevis.

Llwyddodd Rhys, ynghyd â phump o'i gydweithwyr yn y gwasanaeth tân, i ddringo i’r copa mewn cit diffodd tân llawn, gan ddangos eu cryfder, eu nerth a’u hundod anhygoel. Ymdrech oedd hon er cof am ddiffoddwyr tân sydd wedi rhoi eu bywydau wrth wasanaethu, ac roeddent hefyd yn codi arian hanfodol ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.

Diolch i'w hymroddiad, cododd y tîm ychydig o dan £1,000 i gefnogi'r elusen.

Roedd y dringwyr yn cynrychioli dau wasanaeth:

  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: Rhys Fitzgerald, Ben Uprichard, Chris Doyle, a Craig Thomas
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Rydychen: Bob Cross a Thomas Cross

Cafodd y tîm gefnogaeth gan Orsaf Dân Fort William, a fu’n ddigon caredig i roi lle iddynt orffwys a dod atynt hwy eu hunain ar ôl eu hantur.

Hoffem ddiolch o galon i Orsaf Dân Fort William am eu haelioni, i'n cydweithwyr yn Swydd Rydychen am ymuno â'r her, ac i Elusen y Diffoddwyr Tân - nid yn unig am gefnogi'r digwyddiad hwn ond hefyd am y cymorth amhrisiadwy y maent yn parhau i'w roi i ddiffoddwyr tân a'u teuluoedd ledled y Deyrnas Unedig.



Erthygl Flaenorol