Swyddi gwag cyfredol



Byddwch yn rhan o Dîm Eithriadol

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer y rolau canlynol. Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar deitl y swydd os gwelwch yn dda.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Tîm Arwain Gweithredol



Swyddog Monitro a Chlerc yr Awdurdod Tân ac Achub

Lleoliad – Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin (Hybrid gyda dull hyblyg)

Cyflog – £110,070 (pro rata ar sail tri diwrnod yr wythnos)

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn amddiffyn ac yn gwasanaethu cymunedau ar draws rhanbarth eang ac amrywiol o Gymru, gan gwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot, Powys ac Abertawe. Ein Hawdurdod Tân ac Achub sy’n darparu llywodraethiant democrataidd y Gwasanaeth, gan sicrhau ei fod yn gweithredu’n effeithiol, yn dryloyw ac er budd gorau’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Rydym nawr eisiau penodi Swyddog Monitro a Chlerc profiadol â hygrededd i’r Awdurdod Tân ac Achub i gefnogi’r Awdurdod i gynnal y safonau uchaf o lywodraethu, uniondeb ac ymddygiad moesegol.

Mae hon yn rôl statudol, sy’n gyfrifol am gyflawni swyddogaethau’r Swyddog Monitro o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a chynghori’r Awdurdod Tân ac Achub ar faterion cyfansoddiadol, deddfwriaethol a gweithdrefnol.

Mae’r rôl hefyd yn gweithredu fel Clerc i’r Awdurdod, gan sicrhau bod ei brosesau democrataidd, ei gyfarfodydd a’i drefniadau llywodraethu’n gweithredu’n gyfreithlon ac yn effeithiol.

Gan weithio’n agos gyda Chadeirydd yr Awdurdod Tân, Aelodau’r Awdurdod a’r Prif Swyddog Tân, bydd deiliad y swydd yn cynnig cyngor proffesiynol annibynnol ar lywodraethu a safonau, yn goruchwylio Cyfansoddiad a threfniadau Cod Ymddygiad yr Awdurdod, ac yn helpu i sicrhau bod proses gwneud penderfyniadau’r Awdurdod yn gadarn, yn dryloyw ac yn cydymffurfio â deddfwriaethau a chanllawiau perthnasol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â:

  • Gwybodaeth gref am lywodraethu llywodraeth leol, arfer cyfansoddiadol a fframweithiau safonau.
  • Profiad o gynghori aelodau etholedig ac uwch arweinwyr ar faterion cyfreithiol, llywodraethu neu weithdrefnol.
  • Gallu i ddarparu cyngor annibynnol, cytbwys a dibynadwy mewn amgylchedd cymhleth yn y sector cyhoeddus.
  • Sgiliau barn, hygrededd a chyfathrebu rhagorol.

Mae hwn yn gyfle gwych i weithiwr proffesiynol llywodraethu profiadol, uwch-gyfreithiwr neu gyn-Swyddog Monitro awdurdod lleol gyfrannu at lywodraethu effeithiol gwasanaeth cyhoeddus hanfodol.

Ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt wedi’u lleoli yn yr ardal gyfagos ac sy’n dymuno adleoli, mae lwfans ar gael i’w cefnogi.

Cynigir y rôl ar sail hybrid, gyda hyblygrwydd i gefnogi ymgeiswyr nad ydynt wedi’u lleoli yn yr ardal gyfagos. Mae’n ofynnol bod yn bresennol ar y safle ar gyfer cyfarfodydd yr Awdurdod Tân, a gynhelir tua bob 6 wythnos; Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin, yw lleoliad y cyfarfodydd hyn. Y tu allan i’r dyddiau hyn, gellir mabwysiadu dull hyblyg o ran lleoliad.

I gael gwybod mwy, lawrlwythwch y Pecyn Briffio i Ymgeiswyr neu, i gael trafodaeth anffurfiol am y rôl gyffrous hon, cysylltwch â Executive@LHH.com neu ffoniwch 0141 220 6460.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos ddydd Sul 18 Hydref 2026.

 



Diffoddwyr Tân Ar Alwad



Ar hyn o bryd mae gennym gyfleoedd ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn y gorsafoedd canlynol:

Rhanbarth y Gogledd

Ceredigion
Aberystwyth
Tregaron
Cei Newydd
Aberaeron
Llanbedr Pont Steffan
Aberteifi
Borth

Powys
Y Drenewydd
Machynlleth
Trefaldwyn
Y Trallwng
Llanfair Caereinion
Llanfyllin
Llanidloes
Trefyclo
Rhaeadr Gwy
Aberhonddu
Aber-craf
Crucywel
Llandrindod 
Llanfair ym Muallt
Llanwrtyd 
Y Gelli Gandryll
Llanandras
Talgarth

Rhanbarth y Gorllewin

Sir Gaerfyrddin
Caerfyrddin
Llanelli
Cydweli
Pont-iets
Rhydaman
Y Tymbl
Castellnewydd Emlyn
Llandysul
Llandeilo
Llanymddyfri
Hendy-gwyn

Sir Benfro
Hwlffordd
Aberdaugleddau
Abergwaun
Tyddewi
Arberth
Doc Penfro
Dinbych-y-Pysgod
Crymych
Ynys Bŷr

Rhanbarth y De

Neath Port Talbot
Glyn-nedd
Y Cymer
Blaendulais
Pontardawe
Dyffryn Aman
Port Talbot

Abertawe
Pontarddulais
Tre Rheinallt

Barod i ymgeisio?

Llenwch ein ffurflen mynegi diddordeb os gwelwch yn dda a bydd aelod o'n Tîm Adnoddau Dynol mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.

Cais i Ddychwelyd i Gyflogaeth (Ar Alwad yn Unig)

Gellir cynnig yr opsiwn o "ddychwelyd i gyflogaeth" pan fydd gweithiwr wedi terfynu ei Gontract Ar Alwad â GTACGC, a hynny'n wirfoddol, ac yn gofyn am ddychwelyd i gyflogaeth o fewn pedair blynedd i'r diwrnod dyletswydd diwethaf sydd wedi'i gofnodi ar ei gyfer. Mae'r cyfleuster hwn ar gael i'r cyflogeion hynny sy'n dymuno dychwelyd i rôl diffoddwr tân, a'r cyflogeion hynny yn unig. Er bod personél a fu yn Rheolwyr Criw neu Reolwyr Gwylfa yn flaenorol yn gymwys i wneud cais, dim ond i rôl diffoddwr tân y gallant ddychwelyd.

Llenwch ein ffurflen dychwelyd i wasanaeth os gwelwch yn dda a bydd aelod o'n Tîm Adnoddau Dynol mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.

 

Ein Gweledigaeth ac Ymddygiadau

Gweledigaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae Ymddygiadau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n amlinellu sut mae’r Gwasanaeth yn disgwyl i bob aelod o staff i:

  • Fod yn Atebol
  • Fod yn Barchus
  • Fod yn Ddiduedd
  • Fod yn Foesegol
  • Ddangos Uniondeb

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn drwy gydol y broses recriwtio.

 

Diogelu

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.



Staff Cymorth



Rheolwr Cyfreithiol a Chydymffurfio

Adran Diogelwch Tân Busnesau, wedi'i lleoli ym Mhencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin

Gradd 11: £47,665-£50,908

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am geisiadau gan unigolion ar gyfer rôl Rheolwr Cyfreithiol a Chydymffurfio yn yr Adran Diogelwch Tân i Fusnesau a leolir ym Mhencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin. 

Y Rôl
Bydd y Rheolwr Cyfreithiol a Chydymffurfio yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnig arweinyddiaeth, cyngor a chefnogaeth broffesiynol ynglŷn â swyddogaethau cyfreithiol, rheoleiddiol a chydymffurfio ym maes Diogelwch Tân Busnesau. Bydd y rôl yn cynorthwyo'r Gwasanaeth i sicrhau bod ei weithgareddau rheoleiddio a gorfodi yn cael eu cyflawni yn gyson, yn gymesur ac yn unol â deddfwriaeth, canllawiau, safonau proffesiynol a pholisïau sefydliadol perthnasol.

Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cyflenwi dros eraill yn rheolaethol ac yn broffesiynol mewn rolau cyfatebol ym maes rheoli diogelwch tân busnesau a rhoi hyfforddiant arbenigol, datblygu, cymhwysedd ac arbenigedd gweithredol ar waith ar draws ffrydiau gwaith yr adran i gefnogi parhad busnes a gwytnwch y Gwasanaeth.

Bydd y rôl hefyd yn rhoi cyfle i gyfrannu at ddatblygiad yr adran ac at ei moderneiddio’n barhaus gan gefnogi llywodraethu cadarn, rheoli risg effeithiol, sicrhau ansawdd a gwelliant parhaus ar draws y swyddogaeth Diogelwch Tân Busnesau.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos profiad a gwybodaeth berthnasol mewn meysydd fel cydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol, gorfodi, dehongli a gweithredu deddfwriaeth, rheoli risg, llywodraethu, sicrhau ansawdd a chynnig cyngor proffesiynol ynghyd â dangos dealltwriaeth o ofynion Diogelwch Tân Busnesau.

Ymholiadau 
I gael mwy o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â'r Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau, Mathew Robets yn m.roberts@tancgc.gov.uk. 

Gwneud cais am y rôl
I wneud cais am y rôl hon, llenwch y ffurflen gais sydd, gan gyfeirio at y meini prawf a nodir yn y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person.

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost i: AdnoddauDynol@tancgc.gov.uk.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.

Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad cau
15 Hydref 2026 am 4.30yp 

Ffurflen Gais
Disgrifiad Swydd
Manyleb Person



Rheolwr Hyfforddiant a Chymhwysedd

Adran Diogelwch Tân Busnesau, wedi'i lleoli ym Mhencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin

Gradd 11: £47,665-£50,908

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am geisiadau gan unigolion ar gyfer rôl Rheolwr Hyfforddiant a Chymhwysedd o fewn yr adran Diogelwch Tân Busnesau.

Y Rôl
Bydd y Rheolwr Hyfforddiant a Chymhwysedd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod gan staff diogelwch tân busnesau yr wybodaeth, y sgiliau, yr hyfforddiant a'r cymhwysedd proffesiynol priodol i ymgymryd â'u rolau’n effeithiol.

Byddai'r rôl yn cynnig arweinyddiaeth a goruchwyliaeth dros y trefniadau hyfforddi a chymhwyso, gan gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus y staff. Sicrhau bod y ddarpariaeth hyfforddi yn parhau i gyd-fynd â holl ofynion, deddfwriaeth, safonau proffesiynol a gofynion esblygol y swyddogaeth Diogelwch Tân Busnesau.

Bydd y rôl hefyd yn rhoi cyfle i gyfrannu at ddatblygiad yr adran ac at ei moderneiddio’n barhaus gan gefnogi ymagwedd gyson, o safon uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth tuag at hyfforddi, asesu, a chymhwyso.

Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cyflenwi dros eraill yn rheolaethol ac yn broffesiynol mewn rolau cyfatebol ym maes rheoli diogelwch tân busnesau a rhoi hyfforddiant arbenigol, datblygu, cymhwysedd ac arbenigedd gweithredol ar waith ar draws ffrydiau gwaith adrannol i gefnogi parhad busnes a gwytnwch y Gwasanaeth.

Bydd y rôl hefyd yn rhoi cyfle i gyfrannu at ddatblygiad yr adran ac at ei moderneiddio’n barhaus gan gefnogi ymagwedd gyson, o safon uchel ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth tuag at hyfforddi, asesu, a chymhwysedd.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos profiad a gwybodaeth berthnasol mewn meysydd fel hyfforddiant, asesu, sicrhau ansawdd, annog, mentora neu ddatblygiad proffesiynol, ynghyd â dealltwriaeth o ofynion Diogelwch Tân Busnesau.

Ymholiadau 
I gael mwy o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â'r Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau, Mathew Robets yn m.roberts@tancgc.gov.uk. 

Gwneud cais am y rôl
I wneud cais am y rôl hon, llenwch y ffurflen gais sydd, gan gyfeirio at y meini prawf a nodir yn y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person.

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost i: AdnoddauDynol@tancgc.gov.uk.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.

Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cau
15 Hydref 2026 am 4.30yp 

Ffurflen Gais
Disgrifiad Swydd
Manyleb Person



Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Lles

Adran Diogelwch Cymunedol, wedi'i lleoli yn Hwb Aberystwyth, Rhanbarth y Gogledd

Gradd 6: £33,119-£34,811

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gwahodd ceisiadau gan unigolion ar gyfer rôl Swyddog Addysg Gymunedol parhaol yn yr Adran Diogelwch Cymunedol sydd wedi'i lleoli yn Hwb Aberystwyth, Rhanbarth y Gogledd.

Sylwch fod angen llawer o deithio a gweithio ar eich pen eich hun i ymweld â sefydliadau addysgol ledled Ceredigion yn bennaf, ond i ysgolion ym Mhowys hefyd pan fo angen.

Y Rôl
Bydd deilydd y swydd yn ymgysylltu ag addysgwyr a dysgwyr i ddarparu addysg diogelwch.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymweld â sefydliadau addysgol i gyflwyno sesiynau diogelwch tân diddorol ac addysgiadol yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, ond hefyd yn Saesneg pan fo angen.

Mae’r Gymraeg yn hanfodol i’r rôl hon, felly rhaid i ddeilydd y swydd allu siarad Cymraeg yn naturiol.  Mae'r swydd yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.  Cyfathrebwr hyderus a diddorol sy'n gallu addasu i anghenion y gynulleidfa.

Bydd deilydd y swydd hefyd yn ymgysylltu â'r cyhoedd drwy gyfrannu at bob agwedd ar waith Diogelwch Cymunedol gan gynnwys cwblhau ymweliadau Diogelwch Tân yn y Cartref, mynd i ddigwyddiadau a chefnogi aelodau eraill o'r tîm yn ôl yr angen, yn unol â'r disgrifiad swydd.  Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd hefyd ymgymryd â'r holl hyfforddiant sy'n ofynnol i fod ag amrywiaeth o sgiliau ac ymrwymo i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae hon yn swydd lawn amser, 37 awr yr wythnos gydag oriau hyblyg yn unol â chynllun oriau hyblyg y Gwasanaeth.

Ymholiadau
I gael rhagor o wybodaeth am y swyddi hyn, cysylltwch ag Ymgynghorydd Safonau Addysg, Gwenda Jenkins: gwenda.jenkins@tancgc.gov.uk

Gwneud cais am y rôl
I wneud cais am y swydd, llenwch y ffurflen gais gan gyfeirio at y meini prawf sydd wedi’u nodi yn y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person. Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi ar e-bost i humanresources@mawwfire.gov.uk

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ddethol yn amodol ar wiriad DBS a geirda boddhaol.

Nodwch fod croeso i chi anfon ceisiadau yn y Gymraeg, ac ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cau
18 Hydref 2026 am 4.30yp 

Pecyn Cais Am Swydd
Ffurflen Gais
Cyfle Cyfartal
Canllawiau Gwneud Cais

 



Gwirfoddolwyr



Diffoddwyr Tân Llawn Amser



Adran Rheoli Tân ar y Cyd




Cysylltwch â Ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yrfa yn y Gwasanaeth Tân, cysylltwch â ni drwy ein ffurflen ar-lein os gwelwch yn dda.

Ein Gweledigaeth ac Ymddygiadau

Gweledigaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae Ymddygiadau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n amlinellu sut mae’r Gwasanaeth yn disgwyl i bob aelod o staff i:

  • Fod yn Atebol
  • Fod yn Barchus
  • Fod yn Ddiduedd
  • Fod yn Foesegol
  • Ddangos Uniondeb

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn drwy gydol y broses recriwtio.

Diogelu

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.



Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd



Mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyflogwr hyderus ag anableddau.



Cyfleoedd Cyfartal



Mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru’n ymrwymedig i ddatblygu a hyrwyddo Cyfleoedd Cyfartal a Thegwch yn y Gweithle.



Ddyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch o fod yn llofnodwr Cytundeb y Lluoedd Arfog ac yn gyflogwr sy'n cefnogi'r Lluoedd Arfog. Rydym yn cydnabod y sgiliau, y profiad a'r ymrwymiad gwerthfawr y mae personél sy'n gwasanaethu, milwyr wrth gefn a chyn-filwyr yn eu cyfrannu i'n sefydliad a'n cymunedau.