16.12.2025

Byddwch y Gwahaniaeth: Dewch yn Diffoddwr Tân Ar Alwad yn Eich Cymuned

Mae Sioned yn falch o wasanaethu ei chymuned fel Diffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân y Tymbl, ochr yn ochr â'i rôl Amser Cyflawn yng Ngorsaf Dân Pontardawe.

Gan Emma Dyer


Mae Sioned yn falch o wasanaethu ei chymuned fel Diffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân y Tymbl, ochr yn ochr â'i rôl Amser Cyflawn yng Ngorsaf Dân Pontardawe.

Yn y fideo hwn, mae hi'n rhannu beth wnaeth ei hysbrydoli i ymuno â'r Gwasanaeth Tân ac Achub, yr hyn y mae hi wedi'i ddysgu o'r rôl a pham ei fod yn un o'r penderfyniadau mwyaf gwerth chweil y mae hi wedi'i wneud erioed.

Mae ein system bandio Diffoddwyr Tân Ar Alwad newydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd, gwell cyflog a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol - darllenwch fwy isod.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Does dim swydd arall sy’n debyg i Ddiffodd Tanau, mae’n gyffrous, yn wahanol bob dydd, ac mae’n cynnig boddhad mawr. Cewch deimlo eich bod yn cyfrannu at wasanaeth hanfodol gan ennyn parch eich cymuned leol.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn dibynnu ar Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad, ac mae 75% o orsafoedd y Gwasanaeth yn cael eu criwio gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad yn unig.  Maen nhw’n ymateb i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys tanau, gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, achub anifeiliaid, llifogydd a mwy.  Maen nhw hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn addysg a diogelwch cymunedol, gan ymweld â chartrefi pobl i wneud archwiliadau Diogel ac Iach.

Mae GTACGC ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  



Yn ddiweddar, cyflwynodd GTACGC system bandio cyflogau ac argaeledd newydd.  Dyma system sy’n cydnabod yr angen i gydbwyso gwaith a bywyd personol, gan gynnig mwy o hyblygrwydd i’r rhai sy’n awyddus i ddod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.

Mae’r system bandio newydd yn cynnig pum dewis argaeledd i ddisodli’r ddau a oedd ar gael cynt, gan roi mwy fyth o hyblygrwydd i’n Diffoddwyr Tân Ar Alwad a’n darpar Ddiffoddwyr Tan Ar Alwad ddewis sut maen nhw am wasanaethu.

Bydd y system bandio newydd yn cynnwys y dewisiadau canlynol:

  • Band 5: Ar gael am o leiaf 120 awr yr wythnos.
  • Band 4: rhwng 91 awr a 119 awr yr wythnos
  • Band 3: rhwng 61 awr a 90 awr yr wythnos
  • Band 2: rhwng 31 awr a 60 awr yr wythnos
  • Band 1: hyd at 30 awr yr wythnos

Yn ogystal â’r hyblygrwydd newydd hwn, bydd y system hefyd yn cynnig gwell buddion i’n Diffoddwr Tân Ar Alwad.

  • Hyblygrwydd o ran ymrwymiad: Gall Diffoddwyr Tân Ar Alwad wasanaethu eu cymunedau heb roi’r gorau i weithio swyddi eraill, a chan gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. 
  • Tâl digolledu: Bydd Diffoddwr Tân Ar Alwad yn ennill cyflog am wneud ymarferiadau, am hyfforddi ac am ymateb i alwadau, a hynny ar ben eu tâl cadw blynyddol. 
  • Datblygiad personol: Byddant yn ennill sgiliau gwerthfawr i ymateb i argyfyngau ynghyd â mynediad at hyfforddiant ac ardystiadau proffesiynol.
  • Dilyniant gyrfa: Gallai dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad arwain at yrfa fel Diffoddwr Tân Amser Cyflawn neu waith yn y gwasanaethau brys eraill
Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf