Criw Craidd yn Nodi 30 Mlynedd o Ddysgu Gwersi All Achub Bywydau i Ddisgyblion Castell-nedd Port Talbot
Mae digwyddiad y Criw Craidd eleni yn nodi 30 mlynedd o ddysgu gwersi achub bywydau hanfodol i ddisgyblion ledled Castell-nedd Port Talbot. Caiff digwyddiad y Criw Craidd ei drefnu’n flynyddol gan Dîm Diogelwch Cymunedol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ac mae wedi dod yn fenter flaenllaw sy’n dysgu gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch i’r genhedlaeth nesaf.
Daeth dros 1,500 o ddisgyblion blwyddyn 6 o ysgolion cynradd ledled y sir i’r digwyddiad ym Mharc Gwledig Margam. Dros gyfnod o bythefnos, cymerodd disgyblion ran mewn cyfres o weithdai rhyngweithiol i'w paratoi ar gyfer rhai o’r heriau a'r peryglon y gallant eu hwynebu mewn bywyd bob dydd – gan gynnwys diogelwch personol, ymateb i argyfwng, a deall gwaith gwasanaethau cyhoeddus allweddol.
Mae Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch o fod wedi cefnogi’r Criw Craidd o’r cychwyn cyntaf. Mae ein timau wedi cyflwyno sesiynau diogelwch tân gafaelgar i helpu pobl ifanc i ddysgu sut i gadw’n ddiogel gartref ac yn eu cymunedau.