19.02.2026

Criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Cynnal Ymarferiad Hyfforddi

Cymerodd Diffoddwyr Tân Gorsafoedd Tân Treforys a Phontardawe ran mewn ymarferiad hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Pontardawe ddydd Mercher, 11 Chwefror.

Gan Steffan John



Cymerodd Diffoddwyr Tân Gorsafoedd Tân Treforys a Phontardawe ran mewn ymarferiad hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Pontardawe ddydd Mercher, 11 Chwefror, a gynlluniwyd i gryfhau parodrwydd gweithredol.

Roedd y senario’n canolbwyntio ar weithdrefnau offer anadlu ac yn cynnwys digwyddiad ffug o dân mewn eiddo gydag adroddiadau fod nifer o bobl wedi'u dal y tu mewn iddo.  Cafodd criwiau’r dasg o gynnal gweithrediadau chwilio ac achub mewn amodau heriol, llawn mwg, gan adlewyrchu'r pwysau a wynebir yn ystod argyfyngau go iawn.

Fel rhan o'r ymarfer, defnyddiwyd y Peiriant ag Ysgol Drofwrdd o Orsaf Dân Treforys fel tŵr dŵr ac i gael gwell golwg o leoliad y digwyddiad i wirio a oedd unrhyw dân yn lledaenu.

Roedd cydweithredu rhwng y Gorsafoedd Tân yn allweddol i lwyddiant cwblhau'r sesiwn hyfforddi hon.  Mae sesiynau hyfforddi fel hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod Diffoddwyr Tân yn parhau i fod yn barod ar gyfer digwyddiadau cymhleth ac yn parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i gymunedau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol