Ddydd Sul, 22 Mawrth, cynhaliodd Rhanbarth y Gorllewin Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Ddiwrnod Datblygu yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood.
Fe ddaeth staff o Gaerfyrddin, Y Tymbl, Castell Newydd Emlyn, Aberdaugleddau, Aberth a Phontiets at eu gilydd am ddiwrnod a oedd wedi ei gynllunio er mwyn cryfhau sgiliau gweithredol a chefnogi gweithio yn gydweithredol.
Drwy gydol y dydd, bu criwiau’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd hyfforddi realistig, gan gynnwys tanau tŷ gyda phobl wedi’u hadrodd i fod yna, a gwrthdrawiadau ar y ffordd â nifer o gerbydau, tanau cegin ac ymarferion achub llinell.
Cymerodd staff cefnogol ran hefyd, gan esgus bod yn bobl ag anafiadau ac aelodau o'r cyhoedd i helpu i greu amodau realistig ar gyfer digwyddiad, a galluogi criwiau i ymarfer y mathau o sefyllfaoedd y gallant eu hwynebu.
I gwblhau’r diwrnod, cymerodd yr holl griwiau ran mewn sefyllfa dân ar raddfa fawr, yn cynnwys cerbyd wedi'i leoli y tu mewn i garej ynghlwm wrth eiddo, gyda phobl wedi'u hadrodd i fod y tu mewn. Gweithiodd criwiau gyda'i gilydd fel y byddent mewn digwyddiad go iawn i gadw’r tân dan reolaeth ac achub y rhai oedd yn yr eiddo.
Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr, gan alluogi criwiau i gryfhau eu galluoedd gweithredol, gweithio'n agos gyda chydweithwyr o orsafoedd eraill a rhannu sgiliau arbenigol ar draws y Gwasanaeth.