02.04.2026

Cwrs Rheoli Digwyddiadau ym Mhort Talbot

Ddydd Llun, 27 Mawrth, llwyddodd saith ymgeisydd i gwblhau Cwrs Lefel 1 Rheoli Digwyddiadau a gyflwynwyd gan y Tîm Rheoli Digwyddiadau (ICS) yng Ngorsaf Dân Port Talbot.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Llun, 27 Mawrth, llwyddodd saith ymgeisydd i gwblhau Cwrs Lefel 1 Rheoli Digwyddiadau a gyflwynwyd gan y Tîm Rheoli Digwyddiadau (ICS) yng Ngorsaf Dân Port Talbot.

Dyma raglen ddwys bum diwrnod o hyd sydd wedi’i dylunio i baratoi diffoddwyr tân i ysgwyddo’r cyfrifoldeb am beiriannau’r ochr gweithredol. Mae’r rhaglen yn cynnwys dau ddiwrnod o senarios digwyddiadau. Er mwyn cwblhau’r cymhwyster Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder (SFJ), roedd yn rhaid i bob ymgeisydd gymryd rheolaeth ar ystod o ddigwyddiadau gweithredol realistig, gan ddangos sgiliau gwneud penderfyniadau, arwain a rheoli digonol. Llwyddodd yr ymgeiswyr fodloni’r meini prawf, gan gadarnhau eu cymhwysedd i wasanaethu fel swyddogion â gofal mewn digwyddiadau gweithredol.

Daeth cydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i helpu gyda chyflwyniad y cwrs hefyd, gan arsylwi ar yr asesiadau a chefnogi'r gwaith o gynnal y senarios. Roedd eu cyfraniad yn meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol ac yn cryfhau’r cydweithrediad rhwng y gwasanaethau. Hefyd, trwy rannu’r amgylchedd dysgu gallai bawb a oedd yn cymryd rhan gael adborth adeiladol a chyfleoedd datblygu proffesiynol.

Hoffai'r Tîm Rheoli Digwyddiadau longyfarch yr holl ymgeiswyr yn ogystal â diolch yn fawr iawn i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am eu cyfraniad.









Erthygl Flaenorol