19.03.2026

Digwyddiad: Cleifion Wedi’u Hachub o Gerbyd Dan Dŵr yng Nghastell-nedd

Ddydd Mawrth, Mawrth 17eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Canol Abertawe, Castell-nedd a Phontardawe i ddigwyddiad yn cynnwys cerbyd dan dŵr yng Nghastell-nedd.

Gan Steffan John



Am 10.48yb, ddydd Mawrth, Mawrth 17eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Canol Abertawe, Castell-nedd a Phontardawe i ddigwyddiad yn Riverside Drive yng Nghastell-nedd.

Ymatebodd y criwiau i un cerbyd modur preifat a oedd wedi mynd i mewn i gamlas gyda dau glaf y tu mewn.  Anfonwyd tîm cerdded trwy ddŵr i ryddhau’r cleifion o’r cerbyd a oedd wedi’i foddi’n rhannol.  Aseswyd y ddau glaf gan bersonél y Gwasanaeth Ambiwlans.

Gadawodd y criwiau am 11.18yb.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol