24.09.2025

Digwyddiad: Gwrthdrawiad Ffordd yn Llwynhendy

Ddydd Mawrth, Medi 23ain, ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Caerfyrddin a Llanelli i wrthdrawiad ar y ffordd yn Llwynhendy.

Gan Steffan John



Am 8.20yh ddydd Mawrth, Medi 23ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin a Llanelli i ddigwyddiad yn Llwynhendy.

Ymatebodd y criwiau i un cerbyd modur preifat a oedd wedi gadael y ffordd ac wedi mynd i mewn i goetir, gan stopio ger sianel ddŵr.  Cafodd ddau glaf yn y cerbyd fân anafiadau.

Bu’r criwiau yn rhan o’r gwaith o dorri rhannau o’r coetir i ffwrdd er mwyn cyrraedd y cleifion i’w rhyddhau.  Yna, cafodd y cleifion eu rhoi mewn gofal personél y Gwasanaeth Ambiwlans.  Cafodd un Tîm Cerdded Trwy Ddŵr ac un Tîm Achub Arbenigol eu defnyddio yn ystod y digwyddiad.

Roedd angen ymateb amlasiantaeth i’r digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans a’r Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus hefyd yn bresennol.

Gadawodd criwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub am 10.23yp.





Erthygl Flaenorol