Am 2.17yp ddydd Gwener, Gorffennaf 18fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llandysul, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Castell Newydd Emlyn a Llanelli eu galw i ddigwyddiad yn Llangeler yn Llandysul.
Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un tractor, roedd y tân wedi lledu i fyrnau, dau gerbyd ac eiddo cyfagos. Roedd y tân yn yr eiddo, a achoswyd gan y lledaeniad, wedi'i gyfyngu i'r gegin a'r atig.
Gweithiodd y criwiau'n gyflym i ddiffodd y tân ac i'w atal rhag lledaenu ymhellach. Defnyddiwyd wyth set o offer anadlu, tair chwistrell olwyn piben, un chwistrell gorchuddio a system gludo dŵr i ddiffodd y tân. Ar ôl diffodd y tân, bu Diffoddwyr Tân yn monitro’r lleoliad am unrhyw fannau poeth a oedd yn weddill.
Gadawodd y criwiau am 5.43yp.