Doeth i Danau Gwyllt
Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gall glaswellt a llethrau mynyddoedd sychu'n gyflym. Gall hyd yn oed gwreichionen fach - damweiniol neu fwriadol—droi’n dân sy'n symud yn gyflym ac sy'n gallu dinistrio cynefinoedd, tirweddau, a chartrefi o fewn munudau.
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog pawb i fod yn #DoethiDanauGwyllt trwy ddilyn ein cyngor diogelwch syml, ymarferol. Gall ychydig bach o ofal ychwanegol wneud gwahaniaeth enfawr, gan helpu i amddiffyn ein cefn gwlad syfrdanol a chadw cymunedau'n ddiogel rhag effaith ddinistriol tanau gwyllt.
Yn 2025, ymatebodd y gwasanaethau tân ledled Cymru i 3,474 o ddigwyddiadau tanau glaswellt - cynnydd o 275% ar y flwyddyn flaenorol. Yn fwyaf pryderus, cododd tanau glaswellt bwriadol i 2,357 o ddigwyddiadau, cynnydd o 1,694 o danau (i fyny 256%). Mae hyn yn cynrychioli'r nifer uchaf o danau glaswellt ers 2018.
Darllenwch fwy am Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru yma a dysgwch sut y gallwn weithio gyda'n gilydd er mwyn diogelu ein cefn gwlad a'n cymunedau rhag effaith ddinistriol tanau gwyllt.