14.07.2025

Digwyddiad: Tân yng Ngwesty'r Worm's Head yn Rhosili

Ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Reynoldston, Gorllewin Abertawe, Port Talbot, Treforys, Canol Abertawe a Gorseinon i dân yng Ngwesty'r Worm's Head yn Rhosili ddydd Llun, Gorffennaf 14eg.

Gan Steffan John



Am 12.51yb ddydd Llun, Gorffennaf 14eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Reynoldston, Gorllewin Abertawe, Treforys, Canol Abertawe a Gorseinon eu galw i ddigwyddiad yng Ngwesty’r Worm’s Head yn Rhosili.

Ymatebodd y criwiau i dân o fewn bloc llety’r eiddo, a ledodd i ofod to cyfan y bloc.  Defnyddiodd y criwiau beiriant ysgol drofwrdd fel tŵr dŵr, tanc dŵr, dau jet dŵr, un chwistrell olwyn a dau set o offer anadlu i ddiffodd y tân.  Diffoddwyd y tân tua 5.30am.

Ni adroddwyd am unrhyw anafusion a rhoddwyd cyfrif am bob preswylydd.

Ar ôl diffodd y tân, bu’r criwiau’n monitro’r mannau poeth oedd ar ôl gan ddefnyddio camerâu delweddu thermol a’u huddo, gyda’r criwiau olaf yn gadael am 9.32am.

Mae'r eiddo wedi'i ddifrodi'n sylweddol gan y tân. Nid yw achos y tân wedi’i ganfod eto.

Roedd angen ymateb amlasiantaeth ar gyfer y digwyddiad hwn, gyda Heddlu De Cymru hefyd yn bresennol.




Llun uchod gan Bob Smith.



Erthygl Flaenorol