Ddydd Iau, 17 Awst, ymunodd criwiau o Orsaf Dân Glyn-nedd â Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Tîm Achub Mynydd Bannau Canolog a Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Diwrnod Diogelwch Dŵr yn ardal Rhaeadrau Glyn-nedd.
Gyda'r haf ar ei anterth a gwyliau’r ysgol yn prysur agosáu, mae'r rhaeadrau yn yr ardal hon yn dod yn fwyfwy poblogaidd.
Gall damweiniau yn y dŵr ddigwydd i unrhyw un. Gall hyd yn oed pobl sydd wedi paratoi’n dda fynd i drybini pan fyddant yn y dŵr, felly mae gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng yn hanfodol.
Roedd y digwyddiad aml-asiantaeth hwn yn gyfle gwych i aelodau'r cyhoedd wylio achub dŵr yn cael ei arddangos yn ogystal â chael gwybodaeth am ddiogelwch a siarad â'r Gwasanaethau partner.
Cofiwch barchu’r dŵr bob amser.