09.03.2026

Gorsaf Dân Treforys yn Cynnal digwyddiad Golchi Ceir Elusennol

Ddydd Sadwrn, 28 Chwefror cynhaliodd criw Gorsaf Dân Treforys ddigwyddiad golchi ceir elusennol i godi arian ar gyfer dau achos pwysig.

Gan Emma Dyer


Ddydd Sadwrn, 28 Chwefror cynhaliodd criw Gorsaf Dân Treforys ddigwyddiad golchi ceir elusennol i godi arian ar gyfer dau achos pwysig.

Diolch i haelioni'r gymuned leol, cododd y criw £250 i Elusen y Diffoddwyr Tân ac i gefnogi aelod o'r criw sy'n codi arian ar gyfer Marathon Llundain.

Daeth trigolion draw drwy gydol y dydd er mwyn i’w cerbydau gael eu glanhau wrth gefnogi'r digwyddiad, gyda Diffoddwyr Tân yn gweithio gyda'i gilydd i godi arian ac ymgysylltu â'r gymuned.

Hoffai'r criw ddiolch i bawb a ddaeth draw ac a gyfrannodd yn ariannol, gan helpu i wneud y diwrnod yn llwyddiant mawr.




Erthygl Flaenorol