Wrth siarad am dderbyn y wobr a'r effaith gadarnhaol y mae'r Rhaglen wedi'i chael ar GTACGC, dywedodd Uwch Swyddog Cyfrifol y rhaglen, y Prif Swyddog Tân, Craig Flannery:
"Mae'r wobr hon yn cydnabod ymdrechion y Gwasanaeth i fynd i'r afael â'r her barhaol o argaeledd a gwydnwch Ar Alwad. Mae tynnu ar yr ymchwil fwyaf cyfoes a'i defnyddio i lywio ein cyfres o welliannau wedi dechrau dangos enillion gwirioneddol, rhai y byddwn yn parhau i'w hyrwyddo.
Enghraifft arall o arloesedd o fewn y rhaglen yw gweithredu meddalwedd newydd yn ddiweddar sy'n rhoi gwell dealltwriaeth i swyddogion goruchwylio o fylchau mewn sgiliau ac argaeledd, gan alluogi dull mwy cyfannol o recriwtio a hyfforddi i gadw'r peiriannau tân 'ar waith'.
Yr hyn sydd wedi bod yn glir o'r dechrau yw nad yw un ateb yn addas i bawb, ac rwy'n falch o ymdrechion ein Gwasanaeth i feddwl yn greadigol ac yn arloesol i fynd i'r afael â'r gwahanol faterion sy'n codi ar draws ein hardal. Mae'r rhaglen hon yn enghraifft o'n gweledigaeth o ddarparu'r Gwasanaeth gorau posibl i gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru."
Dywedodd Cadeirydd Fforwm Strategol Ar Alwad Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân a Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaerhirfryn, Steve Healey KFSM:
"Rydw i'n llongyfarch GTACGC ar eu Gwobr Prosiect y Flwyddyn ac am y cynnydd y mae'r Gwasanaeth wedi'i wneud wrth wella ei argaeledd Diffoddwyr Tân Ar Alwad.
Nid oes amheuaeth bod gwasanaethau tân ac achub ledled y DU yn wynebu heriau cynyddol wrth recriwtio a chadw Diffoddwyr Tân Ar Alwad, ac mae Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yn gweithio i adolygu a symleiddio'r prosesau recriwtio, profi a chadw ar gyfer y rôl. Ni ellir tanbwysleisio pwysigrwydd Diffoddwyr Tân Ar Alwad wrth amddiffyn cymunedau ledled y DU, mae tua 90% o dir y DU wedi'i wasanaethu gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad, gyda thua 60% o holl Beiriannau Tân y DU yn cael eu defnyddio gan Ddiffoddwyr Tân sy'n gweithredu o dan y system dyletswydd Ar Alwad.
Mae'n addawol gweld y canlyniadau cadarnhaol y mae GTACGC wedi'u cyflawni o ganlyniad i'r newidiadau a'r buddsoddiad ychwanegol a wnaed trwy eu Rhaglen Gwella Diffoddwyr Tân Ar Alwad. Bydd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yn defnyddio'r dystiolaeth hon i barhau i weithio gyda phartneriaid craidd i ddatblygu a diogelu system griwio Diffodd Tân Ar Alwad y DU ymhellach a'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol."