08.07.2025

Noson Recriwtio yng Ngorsaf Dân Aberteifi

Nos Lun, Gorffennaf 21ain, cynhelir Noson Agored Recriwtio yng Ngorsaf Dân Aberteifi, rhwng 5.30yp a 9yh.

Gan Steffan John



Ydych chi erioed wedi ystyried dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?

Ydych chi'n chwilio am her newydd neu ffordd i roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned?

Nos Lun, Gorffennaf 21ain, cynhelir Noson Agored Recriwtio yng Ngorsaf Dân Aberteifi, rhwng 5.30pm a 9pm.
Bydd cyfle gennych i ddysgu mwy am rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad, archwilio'r offer maen nhw'n eu defnyddio, dysgu mwy am yr hyfforddiant sy'n gysylltiedig a sut y gallech chi chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu eich cymuned – a hynny i gyd wrth gynnal eich swydd neu'ch ffordd o fyw bresennol.

P’un a ydych chi’n ystyried gwneud cais o ddifrif neu’n chwilfrydig i ddysgu mwy, bydd y Noson Agored Recriwtio yn gyfle perffaith, heb bwysau, i archwilio’r hyn y mae bod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yn ei olygu.

Nid yw Diffodd Tân yn debyg i unrhyw swydd arall, gall fod yn gyffrous, yn foddhaol ac yn anrhagweladwy.  Daw boddhad a pharch gyda darparu gwasanaeth hanfodol i'ch cymuned leol.
Does dim angen archebu ymlaen llaw.


System Bandio Argaeledd Newydd

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) - mae 75% o'n Gorsafoedd Tân yn cael eu criwio gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad yn unig. 

Yn gynharach eleni, cyflwynodd GTACGC system bandio cyflogau ac argaeledd newydd, sy’n cydnabod yr angen i gydbwyso gwaith a bywyd personol, gan gynnig mwy o hyblygrwydd i’r rhai sy’n awyddus i ddod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.

Mae'r System Criwio Ar Alwad newydd yn cynnig:

  • Hyblygrwydd o ran ymrwymiad: Gall Diffoddwyr Tân Ar Alwad wasanaethu eu cymunedau heb roi’r gorau i weithio swyddi eraill, a chan gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. 
  • Tâl: Bydd Diffoddwr Tân Ar Alwad yn ennill cyflog am wneud ymarferiadau, am hyfforddi ac am ymateb i alwadau, a hynny ar ben eu tâl cadw blynyddol. 
  • Datblygiad personol: Byddant yn ennill sgiliau gwerthfawr i ymateb i argyfyngau ynghyd â mynediad at hyfforddiant ac ardystiadau proffesiynol.
  • Dilyniant gyrfa: Gallai dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad arwain at yrfa fel Diffoddwr Tân Amser Cyflawn neu waith yn y gwasanaethau brys eraill 

Gwnewch wahaniaeth go iawn a dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad.


Erthygl Flaenorol