18.03.2026

Rheolwr Criw Quinnell yn ymuno â Thîm Prosiect Operation Florian Rhyngwladol yn Zimbabwe

Mae'r Rheolwr Criw Toby Quinnell, o Orsaf Dân Pontardawe, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), wedi'i ddewis i ymuno â Thîm Prosiect Operation Florian rhyngwladol, gan gyflawni Cam 13 o Genhadaeth Datblygu Gwasanaeth Tân Bulawayo 2026 yn Zimbabwe ym mis Mawrth.

Gan Rachel Kestin



Mae'r Rheolwr Criw Toby Quinnell, o Orsaf Dân Pontardawe, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), wedi'i ddewis i ymuno â Thîm Prosiect Operation Florian rhyngwladol, gan gyflawni Cam 13 o Genhadaeth Datblygu Gwasanaeth Tân Bulawayo 2026 yn Zimbabwe ym mis Mawrth.

Mae Operation Florian yn elusen ddyngarol Tân ac Achub yn y DU sy'n hyrwyddo amddiffyn bywyd ymhlith cymunedau mewn angen mewn unrhyw ran o'r byd trwy roi offer a hyfforddiant i wella galluoedd diffodd tân, cymorth cyntaf ac achub.

Bydd Toby yn ymuno â thîm arbenigol o 18 o ddiffoddwyr tân gweithredol o bob cwr o'r DU a fydd yn teithio i Bulawayo i gefnogi datblygiad y Gwasanaeth Tân lleol trwy hyfforddiant, trosglwyddo offer, a chydweithredu strategol.

Trwy gydol y daith, bydd Toby a'r tîm yn rhoi hyfforddiant hanfodol i ddiffoddwyr tân, yn cynorthwyo gyda meithrin gallu gweithredol, ac yn cryfhau partneriaethau hirdymor rhwng Gwasanaethau Tân ac Achub y DU a Zimbabwe. Mae pob hediad, llety, pryd bwyd a chludiant o fewn y wlad ar gyfer y tîm yn cael eu hariannu gan Operation Florian.


Wrth gynrychioli GTACGC, dywedodd y Rheolwr Criw Quinnell:



"Rwy'n teimlo’n hynod freintiedig fy mod wedi cael fy newis ar gyfer y cyfle hwn ac yn wirioneddol ddiolchgar am gefnogaeth fy rheolwyr, y mae eu hanogaeth wedi ei gwneud hi'n bosibl i mi gymryd rhan yn Operation Florian yn Zimbabwe. Mae'r genhadaeth hon yn rhoi cyfle i mi nid yn unig i gefnogi cymunedau sy'n wynebu heriau sylweddol, ond hefyd i ddatblygu fy sgiliau a'm profiad fy hun.

Rwy'n credu bod hwn yn gyfle gwych i mi a'r Gwasanaeth ddangos ein hymrwymiad i helpu pobl - yn lleol ac yn rhyngwladol. Mewn cyfnod pan mae'r byd yn wynebu pwysau cynyddol, nid yw cryfhau gwydnwch rhyngwladol erioed wedi bod yn bwysicach. Mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd ar draws ffiniau i rannu gwybodaeth, cefnogi ein gilydd, ac adeiladu cymunedau mwy diogel a chryfach lle bynnag y gallwn."

Rwy'n falch o gynrychioli Gwasanaeth sy'n gwerthfawrogi cefnogaeth ddyngarol, cydweithredu, a'r effaith gadarnhaol y gallwn ei wneud y tu hwnt i'n cymunedau ein hunain."



Mae dewis Toby yn adlewyrchu ei ymrwymiad i ddiogelwch cymunedol a datblygiad proffesiynol, yn ogystal ag enw da personél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru mewn gwaith dyngarol rhyngwladol.

Rydym i gyd yn dymuno pob llwyddiant i Toby wrth iddo gyfrannu ei sgiliau a'i brofiad i'r fenter fyd-eang bwysig hon.

Mae Operation Florian yn parhau i ddibynnu ar gyllid elusennol i gefnogi ei waith, gyda hediadau ar gyfer y daith hon yn unig yn costio dros £30,000. I gael rhagor o wybodaeth am Operation Florian neu i ddangos eich cefnogaeth, ewch i: www.operationflorian.org.uk.





Erthygl Flaenorol