Ddydd Llun, 1 Rhagfyr, ymunodd teulu'r diweddar Reolwr Gwylfa Des Walker â Phrif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), Craig Flannery (PSTC), Personél y Gwasanaeth a'r cyn-Brif Swyddog Tân Roger Thomas (PST) yng Ngorsaf Dân Gorllewin Abertawe ar gyfer seremoni goffa.
Bu farw Des yn sydyn ym mis Ebrill 2024 tra oedd yn Gwasanaethu. Er cof amdano a'r wyth mlynedd a roddodd i Orsaf Dân Gorllewin Abertawe, gwahoddwyd ei deulu i ddadorchuddio carreg goffa a phlac, sydd bellach wedi'u gosod yn falch o flaen yr Orsaf.
Talodd y cyn-Brif Swyddog Tân Roger Thomas, ynghyd â'r PSTC Craig Flannery deyrnged i Des gyda rhai geiriau twymgalon. Yna gwelwyd mab Des, Leon, yn dadorchuddio'r plac ochr yn ochr â gwraig Des, Joanne a gweddill y teulu. Mynychodd llawer o gyn-bersonél a phersonél presennol o bob cwr o'r Gwasanaeth hefyd, sy'n dyst i'r parch mawr a oedd gan bobl tuag at Des.
Hoffem ddiolch i Chwarel Gerrig Arbenigol Gwrhyd ym Mhontardawe am eu haelioni wrth roi’r garreg. Hoffem hefyd fynegi ein diolch i'r Rheolwr Gwylfa Jon Bates, a Mitch Ford, y Diffoddwr Tân Tom White a'r adran Ystadau am eu hymdrechion i drefnu'r gofeb. Yn olaf, hoffem ddiolch i Reolwr yr Orsaf, Richie Davies, am gydlynu'r diwrnod.

