Digwyddiadau

Yn amrywio o ddiwrnodau agored llawn gweithgareddau i olchi ceir a diwrnodau profiad, mae rhywbeth at ddant pawb



Mae yna groeso cynnes i bawb yn ein digwyddiadau cymunedol, gan gynnig cyfle gwych i chi gysylltu â’ch diffoddwyr tân lleol a chefnogi’r digwyddiadau a arweinir gan y gorsafoedd.

Nodwch y dyddiadau yn eich calendrau a chadwch olwg ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a manylion am y digwyddiadau.

Peidiwch da chi â cholli allan ar y cyffro - dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a gwahoddwch eich ffrindiau a’ch teulu.



Digwyddiadau






Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru galendr prysur o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned drwy gydol y flwyddyn.



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cynnig sesiynau profi blancedi trydan am ddim mewn sawl Gorsaf Dân ledled Sir Gaerfyrddin ym mis Tachwedd eleni.

Wrth i’r hydref droi’n aeaf, bydd llawer o aelwydydd yn cymryd blancedi trydan allan o’u cypyrddau i helpu i leihau costau gwresogi.  Er y gall blancedi trydan fod yn ffordd wych, gost-effeithiol o gadw’n gynnes, mae’n bwysig eu gwirio’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ac mewn cyflwr da.

Er mwyn cefnogi preswylwyr, bydd aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol GTACGC yn cynnal gwiriadau diogelwch ar flancedi trydan am ddim, gan archwilio blancedi am ddiffygion posibl ac arwyddion o draul a allai gynyddu’r risg o dân.

Yn ystod y sesiynau profi, byddwn yn edrych ar y blancedi trydan i chwilio am:
  • Ffabrig wedi rhwygo neu wedi gwisgo
  • Marciau llosgi neu arwyddion o orboethi
  • Gwifrau agored neu weladwy
  • Teclynnau rheoli, plygiau neu gysylltwyr wedi’u difrodi
  • Traul cyffredinol a allai olygu nad yw’n gweithio’n ddiogel

Bydd aelodau’r Tîm Diogelwch Cymunedol hefyd ar gael i roi cyngor ymarferol ar atal tân a diogelwch tân yn y cartref, gan helpu preswylwyr i leihau risgiau ac aros yn ddiogel trwy gydol misoedd y gaeaf.

Bydd y sesiynau yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu cynnal rhwng 10:30am - 2:30pm yn y lleoliadau hyn:

  • Gorsaf Dân Llanymddyfri, SA20 0HY – Dydd Llun, 2 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Llanelli (ystafell gymunedol), SA15 3PF – Dydd Gwener, 6 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Castellnewydd Emlyn, SA38 9BA – Dydd Llun, 9 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Rhydaman (ystafell gymunedol), SA18 2LU – Dydd Mercher, 11 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Caerfyrddin (ystafell gymunedol), SA31 1SP – Dydd Gwener, 13 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Pont-iets - SA15 5TR – Dydd Llun, 16 Tachwedd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cynnig sesiynau profi blancedi trydan am ddim mewn sawl Gorsaf Dân ledled Sir Benfro ym mis Hydref eleni.

Wrth i’r hydref droi’n aeaf, bydd llawer o aelwydydd yn cymryd blancedi trydan allan o’u cypyrddau i helpu i leihau costau gwresogi.  Er y gall blancedi trydan fod yn ffordd wych, gost-effeithiol o gadw’n gynnes, mae’n bwysig eu gwirio’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ac mewn cyflwr da.

Er mwyn cefnogi preswylwyr, bydd aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol GTACGC yn cynnal gwiriadau diogelwch ar flancedi trydan am ddim, gan archwilio blancedi am ddiffygion posibl ac arwyddion o draul a allai gynyddu’r risg o dân.

Yn ystod y sesiynau profi, byddwn yn edrych ar y blancedi trydan i chwilio am:
  • Ffabrig wedi rhwygo neu wedi gwisgo
  • Marciau llosgi neu arwyddion o orboethi
  • Gwifrau agored neu weladwy
  • Teclynnau rheoli, plygiau neu gysylltwyr wedi’u difrodi
  • Traul cyffredinol a allai olygu nad yw’n gweithio’n ddiogel

Bydd aelodau’r Tîm Diogelwch Cymunedol hefyd ar gael i roi cyngor ymarferol ar atal tân a diogelwch tân yn y cartref, gan helpu preswylwyr i leihau risgiau ac aros yn ddiogel trwy gydol misoedd y gaeaf.

Sesiynau yn lleoliadau yn Sir Benfro:
  • Gorsaf Dân Aberdaugleddau, SA73 2LL – 10yb-12yp ddydd Mercher, Hydref 7fed
  • Adeilad y Rhanbarth Sir Benfro, SA61 1PE – 10yb-12yp ddydd Gwener, Hydref 16eg
  • Neuadd y Dref Abergwaun, SA65 9HE – 10.30yb-12yp ddydd Gwener, Hydref 30ain

 

Biker Down Cymru Sir Gâr

25 Tachwedd | 1:30pm-4:30pm

Gorsaf Dân Llanymddyfri
18 Gorffennaf | 2pm-5pm

Mae ‘Biker Down’ yn gwrs cymorth cyntaf brys AM DDIM gan y Gwasanaethau Tân ac Achub ar draws y DU.
Mwy o wybodaeth yma



Dyddiau Agored







Dewch i ymweld â ni yn un o'n Diwrnodau Agored ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru! Dyma gyfle i gael ychydig o hwyl rhyngweithiol, wrth i chi gamu i esgidiau diffoddwr tân a chael blas ar yr amrywiol weithgareddau ac arddangosiadau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y diwrnod. Cewch weld y gwaith anhygoel y mae ein harwyr lleol yn ei wneud a chael cipolwg ar fyd diffodd tanau.

 




Parti Calan Gaeaf - Pont-iets 

Ymunwch â ni yng Ngorsaf Dân Pont-iets ar gyfer ein digwyddiad Gorsaf Arswydus i ddathlu Calan Gaeaf.

📍 Ngorsaf Dân Pont-iets 
📅 Ddydd Mercher, 28 Hydref
🕒 5:30yp – 8:00yh 

Mwynhewch daith orsaf arswydus, danteithion melys blasus, a rhai syrpreisys brawychus yn ogystal!

Bydd yr holl elw’n mynd i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Mwy o wybodaeth

 

Parti Calan Gaeaf - Gorllewin Abertawe

Ymunwch â ni yng Ngorsaf Dân Gorllewin Abertawe ar gyfer ein digwyddiad Gorsaf Arswydus i ddathlu Calan Gaeaf.

📍 Ngorsaf Dân Gorllewin Abertawe
📅 Ddydd  Iau, 29 Hydref
🕒 11:00yb – 03:00yp 

Mwynhewch daith orsaf arswydus, danteithion melys blasus, a rhai syrpreisys brawychus yn ogystal!

Bydd yr holl elw’n mynd i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Mwy o wybodaeth

 

Paratowch ar gyfer noson llawn hwyl ac arswyd wrth i Orsaf Dân y Tymbl agor ei drysau ar gyfer ein digwyddiad ‘Ofn yn yr Orsaf Dân’.  Bydd y digwyddiad yn gyfle i deuluoedd a thrigolion lleol ddod ynghyd ar gyfer dathliad Calan Gaeaf cymunedol.

🎃 Dydd Sadwrn, 31 Hydref

🕒 5.30-8yh

📍 Gorsaf Dân y Tymbl, Heol Lletty, Tymbl, Sir Gaerfyrddin, SA14 6BN

Ymunwch â ni am noson wych ar gyfer dathlu Calan Gaeaf yn yr Orsaf Dân!

Dewch â'r teulu cyfan i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Cystadleuaeth gwisgoedd ffansi
  • Cerfio pwmpenni
  • Gemau a gweithgareddau ar thema Calan Gaeaf
  • Cyfle i gwrdd â'ch Diffoddwyr Tân lleol
  • Cyngor ar ddiogelwch rhag tân

Mae'r digwyddiad cymunedol hwylus hwn, yn gyfle gwych i ddathlu Calan Gaeaf gyda ffrindiau a theulu, gan ddysgu awgrymiadau gwerthfawr am ddiogelwch rhag tân i'ch helpu chi a'ch anwyliaid i aros yn ddiogel.

P'un a ydych chi'n arddangos eich gwisg fwyaf brawychus, yn dangos eich creadigrwydd wrth gerfio pwmpenni, neu am fwynhau noson wych i'r teulu, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Orsaf Dân y Tymbl am noson o hwyl bwganllyd!



Golchfeydd Ceir







A oes angen golchi eich car? Rydyn ni yma i helpu! Dewch i un o’n digwyddiadau Golchi Ceir ac am gyfraniad i elusen, fe wnawn ni’n siŵr bod eich car yn disgleirio. Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at Elusen y Diffoddwyr Tân ac elusennau lleol eraill sy’n cael eu dewis gan yr Orsaf Dân dan sylw.




Byddwn yn cynnal digwyddiad golchi ceir elusennol yng Ngorsaf Dân Pontarddulais ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd, rhwng 10AM a 3PM 🚗
Dewch draw, golchi eich car a chefnogi eich Diffoddwyr Tân lleol
ac achos gwych 🧽


Dyddiau Profiad a Recriwtio



Eisiau gwybod mwy am y Gwasanaeth Tân a dod yn Ddiffoddwr Tân? Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys Diwrnodau Profiad, Diwrnodau Dangos a Dweud a Nosweithiau Recriwtio. Edrychwch isod i gael gwybod pa ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn lleol i chi, a gobeithiwn eich gweld yn fuan!