Mae Liwsi, sy'n ddwy oed, yn byw gyda dau gyflwr genetig hynod brin - Syndrom Cri du Chat a Thrawsleoliad Dyblygu Xq28.
Mae'r ddau gyflwr yn brin ar eu pennau eu hunain, ond mae cael y ddau gyda'i gilydd mor brin fel y credir mai Liwsi yw'r unig blentyn hysbys yn y byd sy’n byw â'r union gyfuniad hwn. O ganlyniad, mae angen amrywiaeth o driniaethau a chyfarpar arbenigol arni i gefnogi ei datblygiad a'i gofal dyddiol.
Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn darparu gofal clinigol arbenigol, gydol oes, adsefydlu corfforol, a chefnogaeth iechyd meddwl i bersonél y Gwasanaeth Tân ac Achub sy'n gwasanaethu ac wedi ymddeol, a'u teuluoedd.
Mae eu gwaith yn sicrhau bod y rhai sy'n ymroi eu bywydau i amddiffyn eraill yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn ystod cyfnodau o anaf, salwch neu galedi personol.