Roedd y digwyddiad yn myfyrio ar dri degawd o ymroddiad, dewrder ac ymrwymiad ers i'r Gwasanaeth gael ei ffurfio yn 1996 drwy uno cyn-Frigadau Tân Dyfed, Powys a Gorllewin Morgannwg. Roedd yn rhoi cyfle i ddathlu'r bobl, y timau a'r partneriaid y mae eu cyfraniadau wedi helpu i lunio hanes balch y Gwasanaeth ac yn parhau i gefnogi ei uchelgeisiau at y dyfodol.
Y ddarlledwraig a'r anturiaethwraig o Gymru Lowri Morgan oedd yn llywio’r noson i gydnabod rhagoriaeth ar draws pob rhan o'r Gwasanaeth, o ymateb i argyfyngau, atal a diogelu i weithrediadau’r ystafell reoli a gwasanaethau proffesiynol. Clywodd gwesteion hefyd sut mae'r sefydliad yn parhau i esblygu drwy ei Fframwaith CHOICE, gan sicrhau ei fod yn parhau i ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion newidiol cymunedau ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Drwy gydol y noson, rhoddwyd cydnabyddiaeth i unigolion, timau, gorsafoedd ac adrannau y mae eu hymdrechion yn mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd.
Ymhlith y rhai a gafodd gydnabyddiaeth roedd cydweithwyr sy'n gweithio ym maes Diogelwch Cymunedol, Diogelwch Tân Busnesau, Rheoli Tân ar y Cyd, timau Ymateb Meddygol a Chyd-ymatebwyr, Chwilio ac Achub Trefol, a Diffoddwyr Tân Ar Alwad, ynghyd â llawer o'r timau gwasanaethau proffesiynol y mae eu gwaith yn sail i weithrediadau rheng flaen bob dydd.
Rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig hefyd i sawl unigolyn y mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad wedi cael effaith barhaol ar y Gwasanaeth a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.