Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Sean Lloyd:
"Bob dydd, mae ein pobl yn gweithio'n galed i ddiogelu cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac rwy'n hynod falch o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Bob tro y byddwn yn ymateb i ddigwyddiad, rydym yn ymateb i berson, teulu neu gymuned sydd angen ein help. Mae'r adroddiad hwn yn dangos ymroddiad a phroffesiynoldeb ein staff, yn ogystal â’r cynnydd cadarnhaol y mae’r sefydliad yn parhau i’w wneud.
"Mae ein hymrwymiad i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau yn parhau. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn parhau i wrando, dysgu ac addasu, gan weithio'n agos gyda'n partneriaid a'n cymunedau i ymateb i risgiau, heriau a disgwyliadau newidiol.
"Hoffwn ddiolch i'n staff am eu hymrwymiad a’u hymroddiad, ac i’n cymunedau a'n partneriaid am eu cefnogaeth barhaus."