26.06.2026

Digwyddiad Golchi Ceir Elusennol Gorsaf Dân y Tymbl yn Codi Dros £1,300

Ddydd Sadwrn, 20 Mehefin, cynhaliodd Diffoddwyr Tân Gorsaf Dân y Tymbl ddigwyddiad Golchi Ceir Elusennol i gefnogi dau achos pwysig.

Gan Steffan John



Ddydd Sadwrn, 20 Mehefin, cynhaliodd Diffoddwyr Tân Gorsaf Dân y Tymbl ddigwyddiad Golchi Ceir Elusennol i gefnogi dau achos pwysig.

Cynhaliwyd y digwyddiad ym maes parcio Leekes yn Cross Hands, a gweithiodd y criw yn ddiflino drwy gydol y dydd, yn golchi cerbydau ac yn ymgysylltu ag aelodau'r gymuned.  Diolch i haelioni’r rhai a ddaeth, cododd y digwyddiad swm anhygoel o ychydig dros £1,300, a fydd yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng dau achos teilwng iawn:



Liwsi Our Brave Little Light

Mae Liwsi, sy'n ddwy oed, yn byw gyda dau gyflwr genetig hynod brin - Syndrom Cri du Chat a Thrawsleoliad Dyblygu Xq28. 

Mae'r ddau gyflwr yn brin ar eu pennau eu hunain, ond mae cael y ddau gyda'i gilydd mor brin fel y credir mai Liwsi yw'r unig blentyn hysbys yn y byd sy’n byw â'r union gyfuniad hwn.  O ganlyniad, mae angen amrywiaeth o driniaethau a chyfarpar arbenigol arni i gefnogi ei datblygiad a'i gofal dyddiol.

Elusen y Diffoddwyr Tân

Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn darparu gofal clinigol arbenigol, gydol oes, adsefydlu corfforol, a chefnogaeth iechyd meddwl i bersonél y Gwasanaeth Tân ac Achub sy'n gwasanaethu ac wedi ymddeol, a'u teuluoedd.

Mae eu gwaith yn sicrhau bod y rhai sy'n ymroi eu bywydau i amddiffyn eraill yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn ystod cyfnodau o anaf, salwch neu galedi personol.



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gorsaf Dân y Tymbl yn estyn eu diolch i Leekes, Cross Hands, McDonald’s, Cross Hands a Castell Howell am eu haelioni.









Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf