17.04.2026

Pedair gorsaf dân yn casglu £7,279 ar gyfer elusen

Daeth pedair Gorsaf Dân at ei gilydd ddydd Sadwrn, 28 Mawrth, i gynnal digwyddiadau golchi ceir ar yr un pryd.

Gan Lily Evans



Daeth pedair Gorsaf Dân at ei gilydd ddydd Sadwrn, 28 Mawrth, i gynnal digwyddiadau golchi ceir ar yr un pryd—gan godi £7,279.65 ar gyfer dau achos sy'n darparu cymorth hanfodol i deuluoedd tân ac achub ac i'r rhai sy'n wynebu profedigaeth annisgwyl.

Mae Gorsafoedd Tân Llanandras a Threfyclo Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), ynghyd â Gorsafoedd Tân Ceintun a Kingsland Gwasanaeth Tân ac Achub Henffordd a Chaerwrangon (HWFRS), wedi cynnal sesiynau golchi ceir cymunedol i gefnogi dwy elusen bwysig.




Nod y digwyddiadau oedd casglu arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân a 2wish, gan helpu i sicrhau bod cymorth ymarferol, emosiynol a lles ar gael pan fo ei angen fwyaf.

  • Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn cynnig cymorth gydol oes i les meddyliol, corfforol a chymdeithasol Diffoddwyr Tân sy'n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol, eu teuluoedd, a phersonél eraill y Gwasanaeth Tân ac Achub. Cafodd yr Elusen ei sefydlu yn 1943 ac mae’n cael ei hariannu trwy roddion a digwyddiadau codi arian gan y Gwasanaethau Tân ac Achub. Mae'n adnodd hanfodol i'r rhai sy'n cysegru eu bywydau i amddiffyn eraill.

  • Mae 2wish yn gweithio i sicrhau bod pawb sy'n cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu oedolyn ifanc yn derbyn y cymorth profedigaeth sydd ei angen arnynnhw. Mae'r gefnogaeth maen nhw’n ei ddarparu yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac wedi'i theilwra i anghenion pob unigolyn.



Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth draw a chefnogi'r pedwar digwyddiad. Rhyngddynt, casglodd y pedair Gorsaf £7,279.65 – canlyniad gwych sy'n adlewyrchu haelioni pawb a ddaeth, a roddodd neu a helpodd i hysbysebu.

Rhannwyd yr holl arian 50/50 rhwng Elusen y Diffoddwyr Tân a 2wish, a hynny er cof am Elsa Layton-Jones ac Ivy Oldershaw.

Bydd eich cefnogaeth yn ariannu gofal parhaus, cwnsela a chymorth ymarferol i bobl sydd wir ei angen – diolch i bawb am helpu i droi digwyddiad cymunedol yn effaith elusennol ystyrlon.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol