Yn ddiweddar, cafodd Gorsaf Dân y Cymer sied llesiant awyr agored newydd diolch i Brosiect Seilwaith Gwyrdd ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mae cefnogi iechyd meddwl a llesiant yn rhan bwysig o greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, ac mae'r ardal lesiant newydd hon yn rhoi lle croesawgar i'r criw yng Ngorsaf Dân y Cymer ymlacio, cysylltu gyda chydweithwyr a chymryd amser i ffwrdd o ofynion eu dyletswyddau gweithredol.
Wedi'i hadeiladu gyda chynaliadwyedd mewn golwg, mae'r sied yn cynnwys wal fyw y gellir ei dyfrhau'n naturiol gan ddefnyddio dŵr glaw a gasglwyd o'r to. Y tu mewn i'r sied mae lle cyfforddus i'r criw ymlacio, ynghyd â soffa a barbeciw (i'w ddefnyddio y tu allan), y ddau wedi’u rhoi yn garedig i helpu i greu ardal ddeniadol ar gyfer cysylltu’n gymdeithasol a hybu llesiant.
Dywedodd Stuart Furnell, Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân y Cymer: