07.05.2026

Diffoddwyr Tân Aberystwyth yn Cymryd Rhan mewn Ymarfer Hyfforddi Cwch

Ddydd Mercher, Mai 6ed, cymerodd Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Aberystwyth ran mewn ymarfer hyfforddi cwch ym Marina Aberystwyth.

Gan Steffan John



Ddydd Mercher, Mai 6ed, cymerodd Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Aberystwyth ran mewn ymarfer hyfforddi cwch ym Marina Aberystwyth.

Wedi'i chynnal o fewn iard gychod y marina ac ardal ehangach yr harbwr, roedd y sesiwn yn gyfle i’r criw i ddatblygu ymhellach ystod o gymwyseddau achub dŵr hanfodol.  Ymarferodd y Diffoddwyr Tân symud cwch achub y Gwasanaeth mewn amodau dŵr cyfyng ac agored, gan fireinio eu technegau trin cychod a gwella eu gallu i weithredu'n ddiogel o amgylch traffig morol arall.







Roedd yr hyfforddiant hefyd yn canolbwyntio ar rwymo’r cwch yn ei lle, creu safleoedd gweithio diogel a dilyn gweithdrefnau diogelwch sy’n benodol i amgylchedd morol.  Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol wrth ymateb i ddigwyddiadau sy’n cynnwys cleifion mewn dŵr, digwyddiadau llifogydd neu argyfyngau sy’n cynnwys llongau.

Drwy weithio mewn lleoliad realistig ac ymarfer senarios ymarferol, cryfhaodd yr ymarfer hyder, gwaith tîm, a pharodrwydd y criw ar gyfer digwyddiadau dŵr go iawn.  Mae'n rhan o ymrwymiad parhaus yr orsaf i gynnal lefelau uchel o barodrwydd a datblygu Diffoddwyr Tân iau i sicrhau diogelwch y gymuned leol ac ymwelwyr â'r arfordir.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol