Ym mis Medi, bydd naw diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn ymgymryd â her 110 llawr i anrhydeddu'r 343 o ddiffoddwyr tân a fu farw ar 11 Medi, 2001.
Mae'r tîm ar hyn o bryd yn hyfforddi ar gyfer her unigryw a theimladwy a fydd yn eu gweld yn teithio i Atlanta, UDA, i gymryd rhan mewn her Dringo Grisiau er cof am 9/11, gan nodi 25 mlynedd ers yr ymosodiadau terfysgol.
Byddant yn dringo 110 llawr, sy'n cyfateb i uchder tyrau Canolfan Masnach y Byd, mewn teyrnged i'r 343 o ddiffoddwyr tân a wnaeth yr aberth eithaf wrth ymateb i'r digwyddiadau ar 11 Medi, 2001.
Yn cynrychioli GTACGC yn y digwyddiad bydd y Rheolwyr Gorsaf, Carl Williams ac Oliver Tziros, y Rheolwyr Criw Antony Pugh a Steven Ratcliff a'r Diffoddwyr Tân Rebecca Barden, Rhys Fitzgerald, Lisa Reynolds, Cristian James a Trystan Griffiths.
Bydd yr her dringo grisiau yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 5 Medi 2026, ac mae'r criw wedi bod yn hyfforddi ers misoedd i baratoi ar gyfer yr esgyniad heriol.
Ochr yn ochr â choffáu’r rhai a fu farw, yr her hefyd yw codi arian sydd ei angen yn fawr ar gyfer tri achos elusennol sy’n cefnogi aelodau o gymuned y gwasanaethau brys a’u teuluoedd:
- Elusen y Diffoddwyr Tân – sy’n rhoi cefnogaeth sy'n newid bywydau i ddiffoddwyr tân y DU a'u hanwyliaid (DU).
- Sefydliad Cerdyn Golau Glas – sy’n hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol y Gymuned Golau Glas gyfan, gan gynnwys personél iechyd, argyfwng, gofal cymdeithasol, a phersonél y lluoedd arfog, gan gydnabod y rôl hanfodol y maen nhw’n ei chwarae mewn cymdeithas bob dydd (DU).
- Cronfa Diffoddwyr Tân Terry Farrell – sy’n cefnogi diffoddwyr tân a'u teuluoedd yn yr Unol Daleithiau
Maen nhw’n gobeithio, trwy ymgymryd â'r her hon, y byddan nhw nid yn unig yn anrhydeddu cof am y 343 diffoddwr tân a fu farw ar 9/11 ond hefyd yn ysbrydoli eraill i gydnabod yr ymrwymiad a'r aberth parhaus y mae personél y gwasanaethau brys yn ei ddangos bob dydd.
Mae'r ymdrech codi arian hon hefyd yn digwydd yn ystod blwyddyn nodedig i GTACGC wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed. Er bod dringo’r grisiau yn gyfle i gofio ac anrhydeddu'r 343 o ddiffoddwyr tân a fu farw ar 9/11, mae hefyd yn ffordd ystyrlon i'r tîm gydnabod y gwerthoedd sydd wedi llunio GTACGC dros y 30 mlynedd diwethaf. Drwy gofio, gwasanaethu a chefnogi cyd-bersonél y gwasanaethau brys, mae'r her yn adlewyrchu'r ymrwymiad i'r gymuned sydd wedi diffinio'r sefydliad ers ei ffurfio yn 1996.
Dywedodd aelod arweiniol y tîm, y Rheolwr Gorsaf, Carl Williams: