Am 7.17yb, ddydd Mawrth, Mai 12fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân y Tymbl a Chaerfyrddin eu galw i ddigwyddiad ar hyd yr A48 tua'r gorllewin, ger Foelgastell.
Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un cerbyd modur preifat. Defnyddiodd y criwiau ddwy chwistrell olwyn piben ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân. Ar ôl diffodd y tân, parhaodd y criwiau i huddo’r cerbyd. Dinistriwyd y cerbyd yn llwyr gan y tân.
Gadawodd y criwiau am 8.11yb.