09.10.2026

Digwyddiad: Tân Sied Amaethyddol yn Aberteifi

Ddydd Iau, Hydref 8fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberteifi, Crymych, Castellnewydd Emlyn a Doc Penfro i ddigwyddiad yn Glanrhyd yn Aberteifi.

Gan Steffan John



Am 12.52yp, ddydd Iau, Hydref 8fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberteifi, Crymych, Castellnewydd Emlyn a Doc Penfro i ddigwyddiad yn Glanrhyd yn Aberteifi.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un cerbyd amaethyddol ac un sied amaethyddol, oedd yn mesur tua 40 metr wrth 10 metr.

Defnyddiodd y criwiau offer lledaenu ac offer bach i gael mynediad i’r sied, chwistrell olwyn piben, prif bibellau, pum set o offer anadlu ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân.

Gadawodd y criwiau am 3.21yp.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn!

Ar hyn o bryd mae GTACGC yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o'n Gwasanaeth a'ch cymuned.  

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer  datblygu’n bersonol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn cael tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys taliadau cadw a thaliadau am gael eu galw allan, sy'n ychwanegu at eu hincwm o waith arall.

Erthygl Flaenorol