Daeth teulu, ffrindiau a chydweithwyr at ei gilydd i wylio cyfres o arddangosiadau yn yr iard ymarfer, gan gynnig cipolwg ar yr hyfforddiant heriol a wnaed gan y Diffoddwyr Tân newydd. Drwy gydol y cwrs, cafodd y recriwtiaid brofiad mewn ystod eang o sgiliau gweithredol, gan gynnwys technegau sylfaenol diffodd tân, defnyddio offer, gofal trawma a chleifion, ac ymateb i wrthdrawiadau traffig ffyrdd.
Mae’r Seremoni Cwblhau yn garreg filltir bwysig i bob Diffoddwr Tân wrth iddynt baratoi i ymuno â'u Gorsafoedd Tân priodol ar draws ardal y Gwasanaeth. Fel Diffoddwyr Tân Ar Alwad, byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu eu cymunedau, ymateb i argyfyngau a chefnogi mentrau atal a diogelwch.