Tarodd y daeargrynfeydd, a oedd yn mesur 7.2 a 7.5 ar raddfa Richter, o fewn eiliadau i’w gilydd, gan ladd o leiaf 1,900 o bobl a gadael dros 10,000 wedi'u hanafu neu ar goll.
Fel rhan o Dîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y Deyrnas Unedig (UK-ISAR), mae personél GTACGC wedi ymuno â 68 o aelodau o 15 o Wasanaethau Tân ac Achub ledled y DU i helpu. Mae’r garfan hefyd yn cynnwys chwech o gŵn chwilio sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynorthwyo â’r gwaith o ganfod pobl yn y dinistr.
Ar hyn o bryd mae'r tîm yn gweithredu yn rhanbarth arfordirol Caraballeda, tua 10 milltir i'r gogledd o'r brifddinas, Caracas. Ers cyrraedd, mae personél wedi bod yn cynnal chwiliadau systematig o strwythurau sydd wedi cwympo, gan ddefnyddio timau chwilio cŵn ac offer arbenigol i ddod o hyd i bobl.