15.07.2026

Llwyddiant Rheoli Digwyddiadau Lefel 1!

Ddydd Llun, 29 Mehefin, cyflwynodd Tîm Rheoli Digwyddiadau (ICS) Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Gwrs Rheoli Digwyddiadau Lefel 1 yn llwyddiannus yn Earlswood ac yng Ngorsaf Dân Port Talbot, gydag wyth ymgeisydd yn cwblhau'r rhaglen ddwys pum niwrnod.

Gan Rachel Kestin

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ddatblygu gwybodaeth am Reoli Digwyddiadau, arweinyddiaeth, ac egwyddorion JESIP, gan arfogi cyfranogwyr gyda'r sgiliau sydd eu hangen i reoli digwyddiadau gweithredol fel Penaethiaid Safle Lefel 1. Fel rhan o'r rhaglen, aseswyd ymgeiswyr gan ddefnyddio'r system efelychu XVR, ynghyd ag asesiad ymarferol deuddydd sy'n cynnwys senarios go iawn.

Perfformiodd pob ymgeisydd i safon uchel, gan basio eu hasesiadau gyda chanlyniadau rhagorol ac arddangos arweinyddiaeth, sgiliau cyfathrebu a chymhwysedd technegol cadarn trwy gydol y cwrs.

Hoffai'r Tîm System Rheoli Digwyddiadau longyfarch yr ymgeiswyr ar eu cyflawniadau a dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt barhau â'u datblygiad proffesiynol. Hefyd, diolch yn fawr iawn i Wylfa Werdd Cydweli, Glyn-nedd a Phort Talbot am ddod â'u cyfarpar a'u criwiau a chymryd rhan.

Erthygl Flaenorol