Am 12.41yb, ddydd Iau, Mai 21ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Doc Penfro a Hwlffordd eu galw i ddigwyddiad ger Parc Busnes Pont Cleddau yn Noc Penfro.
Ymatebodd y criwiau yn dilyn adroddiadau am gi Alsatian o'r enw Lunar a oedd wedi cwympo i lawr arglawdd a oedd yn sownd wrth ymyl y dŵr ac nad oedd yn gallu dringo i ddiogelwch.
Roedd angen ymateb aml-asiantaeth ar gyfer y digwyddiad, gyda chriwiau'n gweithio ochr yn ochr â Gwylwyr y Glannau EM, yr RNLI a thimau Chwilio ac Achub Dronau i leoli ac achub Lunar. Llwyddodd tîm cychod yr RNLI i achub Lunar yn ddiogel a'i dychwelyd i dir sych, lle cafodd ei hailuno â'i pherchnogion ddiolchgar iawn.
Mae’r llun yn dangos yr holl dimau gyda Lunar a'i pherchnogion.