Croeso i rifyn yr hydref o Gylchgrawn ein Gwasanaeth, Calon Tân!
Mae Calon Tân yn llond dop o’r newyddion, ymarferion hyfforddi, ymgyrchoedd diogelwch a digwyddiadau diweddaraf o bob rhan o ardal y Gwasanaeth - Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phowys - bron i ddwy ran o dair o Gymru!
Mae uchafbwyntiau'r rhifyn hwn yn cynnwys lansio ymgyrch Llosgi i Amddiffyn – sy’n dilyn un o’r tymhorau tanau gwyllt mwyaf y mae Cymru wedi’i weld – y Diffoddwr Tân sy’n bencampwr beicio Cymru, gosod pecynnau rheoli gwaedu mewn Gorsafoedd Tân a llawer mwy.