Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn!
Ar hyn o bryd mae GTACGC yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o'n Gwasanaeth a'ch cymuned.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygu’n bersonol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn cael tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys taliadau cadw a thaliadau am gael eu galw allan, sy'n ychwanegu at eu hincwm o waith arall.