13.10.2026

Gorsaf Dân Aberystwyth yn Dathlu 10 Mlynedd o Wasanathu’r Gymuned

Heddiw yw degfed pen-blwydd agoriad swyddogol Gorsaf Dân Aberystwyth, carreg filltir sy'n adlewyrchu degawd o wasanaeth ymroddedig i gymunedau Aberystwyth a'r ardal gyfagos.

Gan Steffan John



Heddiw yw degfed pen-blwydd agoriad swyddogol Gorsaf Dân Aberystwyth, carreg filltir sy'n adlewyrchu degawd o wasanaeth ymroddedig i gymunedau Aberystwyth a'r ardal gyfagos.

Agorwyd yr orsaf yn swyddogol ar Hydref 13eg 2016 gan y cyn Prif Swyddog Tân Chris Davies a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pryd, y diweddar Carl Sargeant AS.  Roedd y cyfleuster newydd yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn diogelwch cymunedol a galluoedd modern ar gyfer ymateb i argyfyngau.






Dechreuwyd ar waith adeiladu'r orsaf dân gwerth £1.6 miliwn ym mis Gorffennaf 2015 ar safle'r hen orsaf, gan gymryd lle adeilad a oedd wedi gwasanaethu'r gymuned ers 1962.  Wedi'i dylunio i ddiwallu anghenion gwasanaeth tân ac achub modern, mae'r orsaf yn cynnwys tri bae ar gyfer cerbydau, swyddfeydd ac ystafell gymunedol bwrpasol ar gyfer digwyddiadau, hyfforddiant a gweithgareddau ymgysylltu.

Dathlwyd yr agoriad swyddogol gyda digwyddiad cymunedol a groesawodd ddisgyblion o Ysgol Llwyn yr Eos, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ysgol Gymunedol Plascrug ac Ysgol Gynradd St Padarn. Fel rhan o'r dathliadau, arddangoswyd gwaith celf a grewyd gan enillwyr cystadleuaeth ysgolion cynradd yn falch ledled yr orsaf newydd, gan dynnu sylw at y cysylltiadau cryf rhwng yr orsaf dân a'r gymuned leol.







Hen Orsaf Dân Aberystwyth.





Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae Gorsaf Dân Aberystwyth yn parhau i fod wrth galon y gymuned, gan ddarparu canolfan fodern i Ddiffoddwyr Tân amddiffyn bywydau, eiddo a'r amgylchedd.  Mae'r orsaf yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ymateb i argyfyngau a chyflwyno mentrau diogelwch ar draws Aberystwyth a'r ardaloedd cyfagos.

Wrth i ni ddathlu'r pen-blwydd hwn, edrychwn yn ôl gyda balchder ar ddegawd cyntaf yr orsaf ac yn diolch i'r Diffoddwyr Tân, y staff ac aelodau'r gymuned sydd wedi cyfrannu at ei llwyddiant.  Edrychwn ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o wasanaethu ac amddiffyn ein cymunedau.








30 Mlynedd o GTACGC

Ers ei ffurfio yn 1996, mae GTACGC wedi tyfu i fod yn un o sefydliadau tân ac achub mwyaf y DU, gan wasanaethu tirwedd eang ac amrywiol, o bentrefi gwledig a threfi arfordirol i ddinasoedd trefol prysur.

Trwy gydol y cyfnod hwn, mae ein timau wedi ymateb i filoedd o argyfyngau, wedi bod yn hybu diogelwch a chamau atal tân ac wedi addasu'n barhaus i heriau newydd gyda phroffesiynoldeb a gwydnwch.

Erthygl Flaenorol