Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cynnig sesiynau profi blancedi trydan am ddim mewn sawl Gorsaf Dân ledled Sir Gaerfyrddin ym mis Tachwedd eleni.
Wrth i’r hydref droi’n aeaf, bydd llawer o aelwydydd yn cymryd blancedi trydan allan o’u cypyrddau i helpu i leihau costau gwresogi. Er y gall blancedi trydan fod yn ffordd wych, gost-effeithiol o gadw’n gynnes, mae’n bwysig eu gwirio’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ac mewn cyflwr da.
Er mwyn cefnogi preswylwyr, bydd aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol GTACGC yn cynnal gwiriadau diogelwch ar flancedi trydan am ddim, gan archwilio blancedi am ddiffygion posibl ac arwyddion o draul a allai gynyddu’r risg o dân.
Yn ystod y sesiynau profi, byddwn yn edrych ar y blancedi trydan i chwilio am:
- Ffabrig wedi rhwygo neu wedi gwisgo
- Marciau llosgi neu arwyddion o orboethi
- Gwifrau agored neu weladwy
- Teclynnau rheoli, plygiau neu gysylltwyr wedi’u difrodi
- Traul cyffredinol a allai olygu nad yw’n gweithio’n ddiogel
Bydd aelodau’r Tîm Diogelwch Cymunedol hefyd ar gael i roi cyngor ymarferol ar atal tân a diogelwch tân yn y cartref, gan helpu preswylwyr i leihau risgiau ac aros yn ddiogel trwy gydol misoedd y gaeaf.
Bydd y sesiynau yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu cynnal rhwng 10:30am - 2:30pm yn y lleoliadau hyn:
- Gorsaf Dân Llanymddyfri, SA20 0HY – Dydd Llun, 2 Tachwedd
- Gorsaf Dân Llanelli, SA15 3PF – Dydd Gwener, 6 Tachwedd
- Gorsaf Dân Castellnewydd Emlyn, SA38 9BA – Dydd Llun, 9 Tachwedd
- Gorsaf Dân Rhydaman, SA18 2LU – Dydd Mercher, 11 Tachwedd
- Gorsaf Dân Caerfyrddin , SA31 1SP – Dydd Gwener, 13 Tachwedd
- Gorsaf Dân Pont-iets - SA15 5TR – Dydd Llun, 16 Tachwedd
