19.05.2026

Digwyddiad: Tân Adeilad yn Llanidloes

Ddydd Llun, Mai 18fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanidloes, Y Drenewydd, Llandrindod ac Aberystwyth i ddigwyddiad yn Llanidloes.

Gan Steffan John



Am 6.56yp, ddydd Llun, Mai 18fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanidloes, Y Drenewydd, Llandrindod ac Aberystwyth i ddigwyddiad yn Llanidloes.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un adeilad amaethyddol, yn mesur tua 10 metr wrth 4 metr.  Defnyddiodd y criwiau dwy prif chwistrell, dwy chwistrell olwyn piben ac offer bach i ddiffodd y tân.

Defnyddiwyd y peiriant ysgol drofwrdd o Orsaf Dân Aberystwyth i dynnu llechi a phren oddi ar do'r adeilad.  Cefnogwyd y criwiau gan beiriant tancer dŵr Gorsaf Dân Llandrindod, gyda’r gallu o gyflenwi 8,000 litr o ddŵr ar y tro.

Dinistriwyd yr adeilad yn llwyr gan y tân.  Gadawodd y criwiau am 12.12yb, ddydd Mawrth, Mai 19eg.






Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol