19.05.2026

Hyfforddiant Chwilio ac Achub Rhyngwladol yng Swydd Lincoln

Cynhaliwyd ymarfer diweddar yng Nghanolfan Hyfforddi Waddington yn Swydd Lincoln i hyfforddi’r ymateb i drychinebau mawr. Bu timau Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU yno yn cwblhau ymarfer hyfforddi dwys a helaeth a oedd yn efelychu daeargryn.

Gan Steffan John



Cynhaliwyd ymarfer diweddar yng Nghanolfan Hyfforddi Waddington yn Swydd Lincoln i hyfforddi’r ymateb i drychinebau mawr. Bu timau Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UK-ISAR) yno yn cwblhau ymarfer hyfforddi dwys a helaeth a oedd yn efelychu daeargryn.

Trawsnewidiwyd y safle i gynnwys adeiladau wedi cwympo, pentyrrau ansefydlog o rwbel, gwagleoedd heriol a phobl wedi’u hanafu. Roedd yn realistig iawn, ac wedi’i gynllunio i brofi pob agwedd ar allu chwilio ac achub trefol rhyngwladol.

Ar Faes Sioe Lincoln, sefydlodd timau UK-ISAR ganolfan weithrediadau llawn, gan gynnwys pebyll pwrpasol ar gyfer cyfathrebu, lles, gofal meddygol, logisteg a llety. 





Ar ôl cael eu hanfon allan, aeth y timau a chymorth meddygol ati i arolygu’r lleoliad yn gyflym er mwyn asesu'r gwahanol strwythurau ac i flaenoriaethu tasgau’r ymateb.  Bu’r timau’n gweithredu mewn mannau cyfyng, yn symud trwy amgylcheddau peryglus ac yn cynnal gweithrediadau cymhleth mewn adeiladau sydd wedi cwympo, gan gynnwys atgyfnerthu, codi a thorri. Roedd arbenigwyr achub â rhaffau hefyd yn gweithredu ar uchder ar draws strwythurau tal ac ansefydlog, gan ychwanegu haen arall o realaeth a her i'r ymarfer.

Roedd yr ymarfer hefyd yn arddangosiad o gydweithrediad rhyngwladol cryf, gan fod cynrychiolwyr o Weinyddiaeth Materion Mewnol Gwasanaeth Rheoli Argyfyngau Georgia hefyd yn bresennol. O’u cael yno, crëwyd cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer rhannu dysg, i feithrin partneriaeth ac i annog rhyngweithrededd rhwng timau rhyngwladol.

Roedd trinwyr a thimau cŵn chwilio ac achub yn rhan ganolog o’r ymarferiad, gan ddangos gallu a gwerth anhygoel asedau chwilio cŵn wrth ddod o hyd i bobl yn gyflym mewn adeiladau sydd wedi dymchwel.

Trwy ail-greu’r pwysau, y tempo a pha mor anrhagweladwy yw ymatebion i ddaeargrynfeydd go iawn, sicrhaodd yr ymarfer bod timau UK-ISAR yn barod i ymateb yn gyflym, yn ddiogel ac yn effeithiol pryd bynnag y bydd trychineb.

UK-ISAR yw ymateb swyddogol Llywodraeth y DU i drychinebau rhyngwladol, wedi'i ariannu a'i gefnogi gan FCDO (y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu).









Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol