Am 11.01yb, ddydd Iau, Ebrill 23ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli, Y Tymbl, Port Talbot, Cydweli a Gorllewin Abertawe i ddigwyddiad yn Noc Nevill yn Llanelli.
Ymatebodd y criwiau i dân diwydiannol yn effeithio ar un peiriant cludo a thua 150 tunnell o ddeunydd ailgylchu.
Cafodd y digwyddiad ei rannu’n sectorau a defnyddiodd y criwiau ddau fonitor daear, dau brif chwistrell, chwistrelli olwyn pibell a pheiriannau cloddio i ddiffodd y tân. Ar ôl diffodd y tân, parhaodd y criwiau i huddo’r tân. Cefnogwyd y criwiau gan bresenoldeb peiriannau tancer dŵr o Orsafoedd Tân Y Tymbl a Phort Talbot.
Gadawodd y criwiau olaf am 8.04yh. Ail-archwiliwyd y lleoliad tua 11yh heb nodi unrhyw fannau poeth.