Mae carreg filltir Rhydaman yn cyd-fynd yn berffaith â 30 mlynedd ers sefydlu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a ffurfiwyd yn 1996 pan ddaeth Brigadau Tân Dyfed, Powys a Gorllewin Morgannwg ynghyd i ffurfio'r Gwasanaeth rydym ni'n ei adnabod heddiw. Wrth i'r Gwasanaeth ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed, rydym yn myfyrio nid yn unig ar ble mae wedi dod, ond ar sut mae'n parhau i esblygu. Dros y tair degawd diwethaf, bu cynnydd sylweddol o ran atal, addysg diogelwch, gallu’r ochr weithredol a gweithio mewn partneriaeth, gan sicrhau bod cymunedau fel Rhydaman yn cael eu diogelu'n well nag erioed o'r blaen. Mae'r ddau ben-blwydd hwn yn tynnu sylw at sut mae gorsafoedd tân lleol yn parhau i fod yn ganolog i hunaniaeth y Gwasanaeth, hyd yn oed wrth iddo foderneiddio er mwyn cwrdd â heriau heddiw ac yfory.
Mae gan Orsaf Dân Rhydaman hanes balch a hir o wasanaethu ei chymuned. Roedd ein Prif Swyddog Tân presennol, Craig Flannery, yn gweithio yn Rhydaman fel Rheolwr Gwylfa Ar Alwad cyn i'r Rheolwr Gwylfa presennol gymryd yr awenau yn 2013.