O ganlyniad, mae'r penderfyniad wedi'i wneud i israddio'r digwyddiad o Ddigwyddiad Mawr.
Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn parhau i fod ar y safle, gyda chefnogaeth adnoddau arbenigol, wrth i'r gwaith barhau i ddiffodd mannau problemus sy'n weddill, atal y tân rhag aildanio a sicrhau bod yr ardal yn ddiogel.
Diolch i ymdrechion parhaus diffoddwyr tân ac asiantaethau partner sydd wedi bod yn rhan o'r ymateb, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud wrth atal y tân gwyllt, cyfyngu ar ei ledaeniad a diogelu tir cyfagos a chymunedau lleol.
Yn dilyn asesiadau parhaus o amodau’r tywydd, yr amgylchedd gweithredu a'r tactegau a'r adnoddau mwyaf effeithiol sydd eu hangen, penderfynwyd hefyd nad oes angen cymorth hofrennydd mwyach.
Tra bod y digwyddiad yn parhau, bydd criwiau o'r Gwasanaethau Tân ac Achub yn bresennol yn y lleoliad wrth i'r gwaith barhau er mwyn diffodd y tân gwyllt yn ddiogel.
Bu gostyngiad sylweddol mewn lefelau mwg heddiw wrth i weithrediadau diffodd tân barhau. Fodd bynnag, mae rhywfaint o fwg yn debygol o aros yn weladwy am beth amser eto tra bod criwiau'n parhau i ddiffodd mannau poeth ac enhuddo tân mewn ardaloedd yr effeithir arnynt.
Mae gwasanaethau brys ac asiantaethau partner yn parhau i fonitro amodau'n agos, gan gynnwys unrhyw effaith ar gymunedau lleol.
Efallai y bydd trigolion yng nghyffiniau'r digwyddiad yn parhau i sylwi ar bresenoldeb ac arogl mwg o bryd i'w gilydd ac fe'u hanogir i gymryd rhagofalon priodol, yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau anadlol, pobl hŷn a phlant ifanc.
Mae ansawdd yr aer, amodau’r tywydd a'r effaith ehangach ar gymunedau lleol yn cael eu hasesu'n barhaus fel rhan o'r ymateb aml-asiantaethol, a bydd tactegau gweithredol yn cael eu haddasu yn ôl yr angen.
Mae disgwyl i ddiffoddwyr tân aros yn y lleoliad am beth amser tra bod y gwaith yn parhau i ddiffodd y tân yn llawn a sicrhau bod yr ardal yn ddiogel.
Mae ffyrdd yn dal i fod ar gau, ac mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hannog i barchu llwybrau dargyfeirio a chyfyngiadau er mwyn sicrhau bod gan wasanaethau brys y lle a'r mynediad sydd eu hangen i wneud eu gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol.
Mae Grŵp Cydlynu Tactegol aml-asiantaethol a sefydlwyd mewn ymateb i'r digwyddiad yn parhau i fod yn weithredol. Mae sefydliadau partner yn parhau i gydweithio'n agos i gydlynu'r ymateb parhaus, asesu risgiau a chefnogi cymunedau yr effeithir arnynt.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gweithio'n agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i asesu effaith amgylcheddol y tân gwyllt, gan gynnwys unrhyw effeithiau ar gynefinoedd a rhywogaethau lleol. Wrth i'r digwyddiad symud i'r cam adfer, bydd partneriaid yn ystyried pa waith adfer y gallai fod ei angen yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.