12.08.2026

Tân Gwyllt Rhostir Cronfa Ddŵr Llangynidr – Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Digwyddiad 12 Awst 2026

Mae'r tân gwyllt ger Cronfa Ddŵr Llangynidr ger Glynebwy yn parhau i fod dan reolaeth, gyda diffoddwyr tân ac asiantaethau partner yn dal i wneud cynnydd cadarnhaol wrth i weithrediadau barhau i ganolbwyntio ar ddiffodd mannau poeth a rhwystro’r tân rhag ailgynnau.

Gan Linsey Perry



Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dal i fod ar y safle, gyda chefnogaeth adnoddau arbenigol, wrth i'r gwaith barhau i ddiffodd y tân yn llawn a sicrhau bod yr ardaloedd yr effeithir arnyn nhw yn ddiogel.

Mae diffoddwyr tân wedi parhau i wneud cynnydd cadarnhaol dros y 24 awr diwethaf, gyda mesurau cyfyngu yn dal i fod yn effeithiol ar safle’r digwyddiad. Mae'r tân gwyllt yn parhau i fod yn sefydlog, ac mae'r criwiau'n canolbwyntio eu hymdrechion ar ddiffodd mannau poeth ynysig a lleihau'r risg y bydd y tân yn ailgynnau.

Er bod y tân gwyllt yn parhau i fod yn sefydlog ac o dan reolaeth, efallai y bydd trigolion weithiau'n sylwi ar fwg wrth i griwiau barhau â'u gwaith ar safle’r digwyddiad. Mae disgwyl y cynnydd dros dro hyn mewn mwg wrth i ddiffoddwyr tân ddatgelu, oeri a diffodd mannau poeth sydd wedi'u cuddio o dan yr wyneb. Mae gweithgarwch o'r fath yn rhan arferol o'r broses ddiffodd ac ni ddylid ei ddehongli fel newid sylweddol yn y digwyddiad.

Mae ffyrdd yn parhau i fod ar gau, ac mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hannog i barhau i barchu cyfyngiadau a llwybrau dargyfeirio. Mae dal i fod angen y mesurau hyn er mwyn amddiffyn diogelwch y cyhoedd a sicrhau bod cerbydau brys ac adnoddau arbenigol yn gallu cael mynediad i'r ardal a gweithredu’n ddiogel ac yn effeithiol.

I gydnabod y cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud wrth ddod â'r tân gwyllt dan reolaeth, mae'r Grŵp Cydlynu Tactegol aml-asiantaethol a sefydlwyd mewn ymateb i'r digwyddiad bellach wedi'i atal. Mae hyn yn adlewyrchu natur gynyddol sefydlog y digwyddiad ac effeithiolrwydd yr ymateb cydgysylltiedig hyd yma. Os bydd amgylchiadau'n newid, gellir ailymgynnull y grŵp ar fyr rybudd i ddarparu goruchwyliaeth a chydlynu strategol.

Er bod y Grŵp Cydlynu Tactegol wedi'i dynnu yn ôl, mae ymateb aml-asiantaethol cydgysylltiedig yn parhau i fod ar waith. Bydd y gwasanaethau brys a sefydliadau partner yn parhau i weithio'n agos gyda'i gilydd i fonitro amodau, rheoli unrhyw risgiau parhaus, cefnogi cymunedau yr effeithir arnyn nhw a symud ymlaen â chynllunio ar gyfer adfer wrth i weithrediadau diffodd tân barhau.

Wrth i gynnydd cadarnhaol barhau i gael ei wneud ar safle’r digwyddiad, mae asiantaethau partner hefyd yn dechrau ystyried effeithiau amgylcheddol tymor hwy’r tân gwyllt ac unrhyw waith adfer a allai fod ei angen yn y dyfodol. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a phartneriaid eraill i asesu effeithiau'r tân gwyllt ar gynefinoedd, rhywogaethau a thirweddau lleol.

Er bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud, mae disgwyl i ddiffoddwyr tân aros yn y lleoliad am beth amser tra bod y gwaith yn parhau i ddiffodd y tân yn llawn a lleihau'r risg o unrhyw fflamau pellach.

Cyngor Diogelwch Cyhoeddus

Er mwyn cefnogi'r ymateb parhaus a sicrhau diogelwch y cyhoedd, gofynnir i aelodau o'r cyhoedd:

  • Aros draw o'r ardal yr effeithir arno er mwyn caniatáu i'r gwasanaethau brys weithredu'n ddiogel ac yn effeithiol.
  • Peidio ag anwybyddu na symud arwyddion cau ffyrdd. Maen nhw yn eu lle er eich diogelwch chi ac er mwyn sicrhau bod gwasanaethau brys yn gallu cael parhau â’u gwaith.
  • Osgoi hedfan dronau yn yr ardal, gan y gallant darfu ar weithrediadau brys a pheryglu personél.
  • Cymryd gofal ychwanegol wrth deithio, gan y gall mwg effeithio ar welededd mewn rhai mannau o hyd.
  • Cyfyngu ar yr amser rydych yn ei dreulio yn yr awyr agored lle mae mwg yn arbennig o amlwg.
  • Os yw mwg tân gwyllt yn effeithio ar eich ardal chi, arhoswch dan do pan fo modd a chadwch ffenestri a drysau ar gau. Unwaith y bydd yr amodau’n gwella, awyrwch eich eiddo fel arfer.
  • Dylai'r rhai sydd â chyflyrau anadlol gan gynnwys asthma neu COPD sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnynt a gofyn am gyngor meddygol os bydd symptomau'n gwaethygu.

Rydyn ni’n cydnabod yr aflonyddwch y mae'r digwyddiad hwn wedi'i achosi i drigolion a chymunedau lleol a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad parhaus. Rydyn ni hefyd yn cydnabod proffesiynoldeb, ymrwymiad ac ymroddiad y diffoddwyr tân, yr ymatebwyr brys a’r asiantaethau partner sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r ymateb. Mae eu hymdrechion wedi galluogi i gynnydd sylweddol gael ei wneud wrth ddod â'r tân gwyllt dan reolaeth a byddan nhw’n parhau i chwarae rhan hanfodol wrth ddod â'r digwyddiad i ben yn ddiogel yn ystod y dyddiau nesaf.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf