“Mae’r ardd hon yn llawer mwy na man gwyrdd. Mae’n rhywle i bobl ddod ynghyd, cael saib o’u bywydau prysur, a mwynhau manteision treulio amser yn yr awyr agored.
Roedden ni eisiau creu rhywle croesawgar, cynhwysol a hygyrch i bawb, ac rydyn ni’n falch ein bod yn gallu rhannu’r ardd gyda’r gymuned. Rydyn ni wrth ein bodd fod Mr Greenway a phreswylwyr eraill Neuadd Maldwyn yn defnyddio’r ardd ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld yr ardd yn tyfu ac yn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.”
Kerry Hughes
Rheolwr yr Orsaf, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru