07.09.2026

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi Wythnos Diogelwch Tân Simdde

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi Wythnos Diogelwch Tân Simdde HETAS ac yn annog aelwydydd i sicrhau bod eu simneiau'n cael eu sgubo a'u trin yn broffesiynol cyn eu defnyddio'n rheolaidd.

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi Wythnos Diogelwch Tân Simdde HETAS ac yn annog aelwydydd i sicrhau bod eu simneiau'n cael eu sgubo a'u trin yn broffesiynol cyn eu defnyddio'n rheolaidd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae criwiau wedi cael eu galw i 91 tân simdde ar draws ardal y Gwasanaeth. Achoswyd llawer o'r digwyddiadau hyn gan huddygl, tar a dyddodion hylosg eraill yn cronni o fewn ffliw'r simdde.

Er y gall tanau simdde achosi difrod sylweddol i gartrefi, mae cael trefn cynnal a chadw ac archwilio arferol yn gallu eu hatal. Mae cadw'ch simdde'n lân yn helpu i leihau'r risg o dân ac yn sicrhau ei bod yn gweithio'n ddiogel ac yn effeithlon.

Gall glanhau simdde yn rheolaidd hefyd helpu i atal carbon monocsid rhag cronni, nwy gwenwynig na ellir ei weld, ei arogli na’i flasu. Gall simneiau sydd wedi'u blocio neu wedi'u difrodi ganiatáu i garbon monocsid fynd i mewn i eiddo, gan beri risg ddifrifol i breswylwyr.

Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cartref, Gareth Hands:

"Gall simdde nad yw'n cael ei chynnal a’i chadw’n iawn achosi perygl sylweddol o dân. Mewn rhai achosion, gall tân simdde ledaenu'n gyflym i rannau eraill o'r cartref, gan achosi difrod helaeth. Rydym yn cynghori perchnogion tai i sicrhau bod eu simneiau yn cael eu glanhau o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac, o leiaf, cyn iddynt ddechrau eu defnyddio yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf.”



Er mwyn helpu i gadw'ch cartref yn ddiogel:

  • Glanhewch y simdde cyn ei defnyddio os nad ydych wedi ei defnyddio ers tipyn.
  • Gwnewch yn siŵr bod gwarchodwr tân bob amser o flaen y tân.
  • Gall gwarchodwr gwreichion atal tân eiddo difrifol.
  • Diffoddwch y tân cyn mynd i’r​ gwely neu adael y tŷ.
  • PEIDIWCH BYTH â defnyddio petrol neu baraffin i gynnau eich tân.
  • Sicrhewch eich bod yn profi a chynnal larymau mwg a larymau carbon monocsid yn rheolaidd.

Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch tân simdde, ewch i: Simneiau, Tanau Agored a Stofiau Llosgi Pren

Gall preswylwyr sydd â phryderon am ddiogelwch tân yn eu cartref hefyd ofyn am Ymweliadau Diogel ac Iach am ddim drwy ffonio 0800 169 1234 neu drwy ein ffurflen ar-lein, yma - Ymweliadau Diogel ac Iach

#CFSW2026

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf