Ddydd Mawrth, 21 Gorffennaf, croesawodd Gorsaf Dân Arberth ymwelwyr i'w Diwrnod Agored blynyddol, gan roi cyfle i aelodau'r cyhoedd ymweld â'r orsaf, cwrdd â'r criw a mwynhau diwrnod llawn hwyl a gweithgareddau.
Yn ystod y dydd, cafodd ymwelwyr gyfle i reidio'r carwsél, rasio i lawr y sleid fawr, a sgwrsio ag aelodau o'n tîm Diogelwch Cymunedol ac asiantaethau partner, gan gynnwys y Beiciau Gwaed a Heddlu Dyfed-Powys.
Fe wnaeth y rhai a ddaeth i’r digwyddiad hefyd fwynhau archwilio cwch Gorsaf Dân Hwlffordd, y tanc a'r argae o Orsaf Dân Aberdaugleddau, a gwylio arddangosiad ysgol 13.5m trawiadol, a phrofodd pob un ohonynt yn hynod boblogaidd trwy gydol y dydd.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gan godi £639.12 i Elusen y Diffoddwyr Tân.
Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth, a gefnogodd ac a helpodd i wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant.