Mwy o Risg o Danau Gwyllt
Mae’r tanau gwyllt helaeth ar draws gogledd a de-ddwyrain Cymru yn ddiweddar wedi tynnu sylw at ba mor sych yw ein tirwedd.
Mae'r amodau sych hirfaith hyn yn cynyddu'r risg o danau gwyllt yn sylweddol. Mae cynnau tanau’n fwriadol yn drosedd ddifrifol a all roi bywydau mewn perygl ac achosi difrod sylweddol i eiddo ac i’r amgylchedd.
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gweithio ar y cyd i atal, rheoli a chyfyngu tanau gwyllt ledled Cymru drwy ei ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.
Mae GTACGC yn annog pawb i gymryd gofal ychwanegol ac i ddilyn y mesurau diogelwch hyn er mwyn osgoi tanau gwyllt dinistriol a rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys ac ar adnoddau:
- Osgowch gynnau tanau yn yr awyr agored, yn enwedig yn yr amodau sych presennol
- Peidiwch byth â gadael tân gwersyll, pyllau tân na barbeciws heb neb yn cadw golwg arnyn nhw
- Gwnewch yn siŵr bod pob tân, barbeciw a gril tafladwy wedi'i ddiffodd yn llwyr cyn ei adael
- Peidiwch â thaflu sigaréts, matsis na phethau ysmygu ar y ddaear nac o ffenestri cerbydau
- Ewch â'ch holl sbwriel adref gyda chi, yn enwedig poteli gwydr, sy'n gallu dwysáu golau’r haul a chynyddu'r risg o dân
- Rhowch wybod am arwyddion o dân gwyllt ar unwaith drwy ffonio 999 a gofyn am y Gwasanaeth Tân ac Achub
- Os byddwch yn gweld ymddygiad amheus neu rywun yn cynnau tân yn fwriadol, rhowch wybod i'r Heddlu
Ewch yma i gael adnoddau a negeseuon cymeradwy Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru.