13.08.2026

Tanau Gwyllt Parhaus Ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae ein criwiau'n parhau i ddelio â nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud â thanau gwyllt sylweddol ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gan Steffan John



Trwy gydol y nos a’r bore 'ma (dydd Iau, Awst 13eg), mae ein criwiau'n parhau i ddelio â nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud â thanau gwyllt sylweddol ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'r digwyddiadau hyn yn parhau i fod yn gymhleth ac yn gofyn am lawer o adnoddau, ond maen nhw’n cael eu rheoli gan y gwasanaethau brys, gyda chefnogaeth ein partneriaid, gan helpu i sicrhau bod gennym yr adnoddau sydd eu hangen i amddiffyn cymunedau ac ymateb yn effeithiol.

Mae’r tywydd cynnes a sych yn ddiweddar wedi creu amodau a all ganiatáu i danau ledu'n gyflym, ac mae diffoddwyr tân yn parhau i ganolbwyntio ar amddiffyn cymunedau, eiddo, seilwaith a'r amgylchedd. 

Os ydych chi'n gweld fflamau, neu'n credu bod bywyd neu eiddo mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

Os gallwch weld mwg o ddigwyddiad, gallwn eich sicrhau bod criwiau tân yn debygol o fod yno’n barod ac nad oes angen ffonio 999.

Rydym yn gofyn i'r cyhoedd am eich help, gan fod y tanau gwyllt hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar adnoddau.



Mae ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn ein hatgoffa ni i gyd i gymryd rhagofalon syml wrth fwynhau'r awyr agored ac i osgoi gweithgareddau a allai gynnau tân yn anfwriadol.

Rydym yn gofyn i bawb ddilyn y cyngor canlynol:

  • Peidiwch â thanio unrhyw beth y tu allan a allai greu gwreichionen allai achosi tân
  • Arhoswch draw o'r ardaloedd lle mae'r gwasanaethau brys yn delio â digwyddiadau
  • Peidiwch â hedfan dronau yn yr ardal, gan eu bod yn gallu tarfu ar weithrediadau brys a pheryglu gweithrediadau'n ymwneud â’r digwyddiad - gan gynnwys gweithrediadau hofrennydd
  • Rydym wedi gweld achosion o gynnau tân bwriadol, rhowch wybod am unrhyw ymddygiad amheus i'r heddlu drwy ffonio 101
  • Dilynwch unrhyw gyfyngiadau lleol neu gyngor diogelwch yn yr ardaloedd yr effeithir arnyn nhw.


Ar gyfer preswylwyr sy'n cael eu heffeithio gan fwg, rydyn ni’n eich cynghori i gadw ffenestri a drysau ar gau lle bo hynny'n bosibl ac i ddilyn cyngor iechyd y cyhoedd. Dylai pobl â chyflyrau anadlol gymryd gofal ychwanegol a gofyn am sylw meddygol pan fo angen.

Bydd y gwasanaethau brys a sefydliadau partner yn parhau i weithio gyda'i gilydd i fonitro'r sefyllfa, darparu cymorth i gymunedau yr effeithir arnyn nhw a rhoi gwybod i'r cyhoedd wrth i ddigwyddiadau ddatblygu.


Erthygl Flaenorol