Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi Wythnos Atal Boddi Royal Life Saving Society UK (RLSS UK) i helpu plant a'u teuluoedd i fwynhau dŵr yn ddiogel cyn yr haf.
Ers dros ddegawd, mae Wythnos Atal Boddi RLSS UK wedi anelu at roi gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch dŵr i addysgwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr plant cyn misoedd yr haf, pan fydd achosion o foddi yn fwyaf tebygol o ddigwydd.
Mae'r risg o foddi yn ddamweiniol yn cynyddu'n sylweddol yn ystod yr haf, pan fydd yr awydd i nofio mewn afonydd, llynnoedd, neu ddŵr agored yn fwy apelgar mewn cyfnodau o dywydd cynnes.
Mae gwybod sut i nofio yn sgil werthfawr - ond dydy hynny ddim yn ddigon i gadw'n ddiogel yn y dŵr. Mae gwir allu a hyder yn y dŵr ac o gwmpas dŵr yn gofyn hefyd am wybodaeth am y Cod Diogelwch Dŵr - Get to know the Water Safety Code with RLSS UK (Isdeitlau Cymraeg) | Videos & Movies ar Vimeo, gan gynnwys aros gyda'ch gilydd, stopio i feddwl ac asesu'r risgiau cyn mynd i mewn i'r dŵr, a gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng.
Mae modd atal boddi. Yn ogystal â rhannu negeseuon diogelwch dŵr, mae RLSS UK yn ymgyrchu dros atal boddi systemig drwy gefnogi achubwyr bywyd a hyfforddi pobl sy'n sefyll o gwmpas, yn ogystal â paratoi polisïau diogelwch dŵr unedig gyda'r Llywodraeth.
Mae Wythnos Atal Boddi yn chwarae rhan hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth ac annog y cyhoedd i fwynhau dŵr yn ddiogel.