12.06.2026

Disgyblion Ysgol Uwchradd y Drenewydd yn Cwblhau Cwrs Profiad Diffoddwyr Tân

Yn ddiweddar, cymerodd grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 9 o Ysgol Uwchradd Y Drenewydd ran mewn cwrs ‘Profiad Diffoddwyr Tân’ wythnos o hyd yng Ngorsaf Dân Y Drenewydd.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar, cymerodd grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 9 o Ysgol Uwchradd Y Drenewydd ran mewn cwrs ‘Profiad Diffoddwyr Tân’ wythnos o hyd yng Ngorsaf Dân Y Drenewydd.

Yn ystod yr wythnos, cymerodd y disgyblion ran mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol fel dringo ysgolion, rhedeg allan a rholio pibellau dŵr, dysgu technegau chwilio ac achub a datblygu eu gwybodaeth am ddiogelwch rhag tân.  Llwyddodd y myfyrwyr i ddatblygu eu hyder, i ddysgu sgiliau newydd a gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd fel tîm.







Cadetiaid Tân

Nod y Cadetiaid Tân yw galluogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth i gael profiad cadarnhaol mewn amgylchedd hwyliog, diogel. Bydd y Cadetiaid Tân hefyd yn dysgu sgiliau bywyd pwysig a fydd yn ysbrydoli dewisiadau cadarnhaol ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol.

Mae'r rhaglen yn ddwy flynedd o hyd ac yn addas ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 16 oed.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol